Mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi cadarnhau bod £11.8 miliwn o gyllid wedi’i ryddhau i Ganolbarth Cymru fel rhan o becyn buddsoddi i roi hwb i economi’r rhanbarth.
Daeth y cyhoeddiad wrth i Weinidogion fynd ar daith yr wythnos hon i weld y prosiect cyntaf i gael cefnogaeth Bargen Twf Canolbarth Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan y ddwy lywodraeth er mwyn denu mwy o fuddsoddi oddi wrth y sectorau cyhoeddus a phreifat.
Roedd yr ymweliad â datblygiad Llynnoedd Cwm Elan – sy’n ceisio gosod meincnod newydd ar gyfer twristiaeth gynaliadwy – yn gam mawr ymlaen i’r Fargen Dwf wrth i brosiectau ddechrau mynd yn eu blaen o’r cam cynllunio i’r cam cyflawni.
Bydd y pecyn gwaith cyntaf yn hybu profiad ymwelwyr, yn cynyddu refeniw yn lleol ac yn cynnal harddwch naturiol a bioamrywiaeth Cwm Elan. Bydd y pwyslais ar ddau faes allweddol:
- Ehangu’r Goedwig Law Geltaidd – Cysylltu ac adfer 117 hectar o goetiroedd tameidiog fel rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
- Dylunio’r Ganolfan Ymwelwyr – Rhoi cychwyn ar y dyluniadau ar gyfer yr ailddatblygu er mwyn hybu profiad ymwelwyr ac integreiddio addysg amgylcheddol ac arferion cynaliadwy.
Rhagwelir y bydd y cam cyntaf ar ei ben ei hun yn dod â budd economaidd blynyddol o £4 miliwn ac y bydd y prosiect yn cyfrannu £17 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2040.
Cafodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, y Fonesig Nia Griffith, ac Ysgrifennydd Economi Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans, eu croesawu gan gynrychiolwyr o Dyfu Canolbarth Cymru, sef y bartneriaeth ranbarthol sy’n goruchwylio'r Fargen Dwf, ynghyd â’r datblygwyr Dŵr Cymru.
Yno, cadarnhaodd y Gweinidogion fod Llywodraethau Prydain a Chymru wedi datgloi ail gyfran cyllid y Fargen Dwf, sy’n werth cyfanswm o £11.8 miliwn.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae Bargen Twf Canolbarth Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn ein gweledigaeth ar gyfer ffyniant economaidd ledled Cymru. Mae gan briosect Llynnoedd Cwm Elan y potensial i drawsnewid gan ddenu ymwelwyr, creu swyddi a gosod Canolbarth Cymru fel cyrchfan o bwys mewn Cymru lewyrchus, werdd a theg.
Dywedodd y Fonesig Nia Griffith DBE AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru:
Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut mae Llywodraeth y DU yn cefnogi’r rhanbarth i gyflawni ein cenhadaeth o dwf economaidd drwy hybu twristiaeth a chreu swyddi.
Mae Cwm Elan yn lle hyfryd a bydd y gwelliannau hyn yn golygu bod y profiad o ymweld â’r ardal yn well eto, gan warchod yr amgylchedd ar yr un pryd.
Gwnaeth Arweinydd Cyngor Sir Powys, y Cynghorydd James Gibson-Watt ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Bryan Davies bwysleisio’r manteision ehangach:
Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein sector twristiaeth ond hefyd yn blaenoriaethu cadwraeth a chynaliadwyedd. Bydd yn creu swyddi yn uniongyrchol ac yn yr economi ehangach. Rydym yn ymroi i gefnogi’r prosiect wrth iddo fynd rhagddo.
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr Dŵr Cymru:
Mae’r prosiect hwn yn brawf o’n hymrwymiad i dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio amgylcheddol gan chwarae ein rhan yn ‘Nhîm Cymru’ wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Bydd yn trawsnewid Cwm Elan yn gyrchfan o bwys gan ddod â budd i’n cwsmeriaid a’r gymuned leol.