Neidio i'r prif gynnwy

26 o weithwyr proffesiynol addysgol ar restr fer Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae 26 o addysgwyr proffesiynol yng Nghymru wedi’u henwi fel teilyngwyr yn rownd derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sydd yn ei phedwaredd flwydd eleni.

Ar ôl blwyddyn hynod heriol i athrawon, staff, disgyblion, a'u teuluoedd, ni fu erioed yn bwysicach cydnabod ymrwymiad a gwaith caled ein gweithwyr addysg broffesiynol ledled Cymru. Gyda'r seremoni wreiddiol wedi'i gohirio oherwydd y pandemig, bydd dathliadau nawr yn cael eu cynnal yn rhithiol ar ddydd Sul 29 Tachwedd.

Derbyniwyd dros 100 o enwebiadau yn gynharach eleni gan ddisgyblion, cydweithwyr, a rhieni sydd am ddathlu'r athrawon hynod yn eu bywydau. Mae'r enwebeion bellach ar restr fer o 26 yn y rownd derfynol ar draws ystod o gategorïau.

Cyhoeddir enillwyr pob un o’r naw categori, gan gynnwys Gwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am Athro a Phennaeth Gorau'r Flwyddyn mewn seremoni rithiol arbennig ar ddydd Sul 29 Tachwedd am 6pm. Gall ysgolion, disgyblion, a theuluoedd gefnogi'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol trwy wylio'r seremoni ar dudalen Facebook Addysg Cymru o 6pm.

Bydd Gwobr y Disgybl (neu'r Disgyblion) am yr Athro Gorau, un o'r gwobrau newydd ar gyfer 2020, yn gweld athro neu aelod arall o staff yn cael ei gydnabod gan ddisgybl (neu grŵp o ddisgyblion) yn y gorffennol neu'r presennol am y gwahaniaeth enfawr y maent wedi'i wneud i’w bywyd yn yr ysgol. Bydd gwobr Pennaeth y Flwyddyn yn mynd i unigolyn sy'n eithriadol yn ei swydd, wrth ddangos y gallu i gynnwys yr ysgol yn y gymuned ehangach a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bob disgybl.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i rieni, disgyblion ac ysgolion ledled Cymru, ond mae'r sector addysg wedi dangos gwytnwch aruthrol.

Mae penderfyniad ac arloesedd wedi disgleirio eleni ac mae ein gweithlu addysg wedi bod yn gweithio’n ddiflino i gadw Cymru i ddysgu.

Mae’n fraint cyhoeddi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol hynod hon a darllen eu straeon am waith caled ac ymrwymiad. Eleni, yn fwy nag erioed, mae'r gwobrau'n ddathliad o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eu hunain a'r ysgolion, yr athrawon a'r disgyblion y maent yn eu cynrychioli.

Edrychaf ymlaen at ddathlu pob un ohonoch a diolch i chi i gyd am yr ysbryd a'r dyfalbarhad rydych chi wedi'i ddangos trwy'r flwyddyn aruthrol anodd hon.

I ymuno yn y dathliadau, gallwch wylio'r seremoni gartref yn fyw ar ddydd Sul 29 Tachwedd am 6pm trwy fynd i Facebook neu YouTube.

Ymunwch â'r sgwrs gyda #GwobrauAddysgCymru neu dilynwch @LlC_Addysg.  

Teilyngwyr Rownd Derfynol Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2020:

Athro'r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd - newydd ar gyfer 2020

Michelle Davies – Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt, Llanfair-ym-Muallt

Alison Garza – Ysgol Gynradd Pencoed, Pen-y-bont ar Ogwr

Stacey Harris – Ysgol Gynradd Coed Eva, Cwmbran

Athro Newydd Eithriadol

Ben Powell – Ysgol Arbennig ASD Ysgol Bryn Derw, Casnewydd

Maya Gill-Taylor – Ysgol Aberconwy, Conwy

Hannah Lewis – Ysgol Gynradd Troedyrhiw, Merthyr Tudful

Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg

Lisa Roberts – Ysgol Y Creuddyn, Llandudno

Dyfed Williams – Ysgol Eirias, Bae Colwyn

Cefnogi Athrawon a Dysgwyr

Louise Flynn – Ysgol Uwchradd Pen Y Dre, Merthyr Tudful

Teresa Humphreys – Ysgol St Christopher, Wrecsam

Nerys Todd - Ysgol Gymraeg Caerffili, Caerffili

Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion

Tracy Mills – Ysgol Uwchradd Whitmore, Caerdydd

Gavin Packer – Ysgol St Cyres, Penarth

Gavin Witte – Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion

Athro'r Flwyddyn mewn ysgol Uwchradd - newydd ar gyfer 2020

Victoria Carey – Ysgol Uwchradd Y Fair Ddihalog, Caerdydd

Dr Gareth Evans – Ysgol Y Creuddyn, Llandudno

Chris Mitchell – Ysgol Gyfun Pontarddulais, Pontarddulais

Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol

Kuljit Bratch – Ysgol Aberconwy, Conwy

Yvonne Hawkins – Ysgol Gynradd Palmerston, Y Barri

Catrin Rhys Williams – Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Pennaeth y Flwyddyn

Jamie Hallett – Ysgol Gymraeg y Ffin, Cil-y-Coed

William Howlett – Ysgol Gynradd yr Albany, Caerdydd

David Jenkins – Ysgol Ty Coch, Pontypridd

Gwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau - newydd ar gyfer 2020

David Church – Ysgol Gyfun Aberpennar, Aberpennar

Rebecca Ebanks – Ysgol Gynradd Rhosneigr, Sir Fôn

Dr Jonathan Thomas – Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe