Neidio i'r prif gynnwy

Mae 29 o weithwyr addysg proffesiynol o Gymru wedi’u cyhoeddi yn deilyngwyr y gwobrau cenedlaethol sy’n dychwelyd gyda chategori newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Eleni, mae 29 o weithwyr addysg proffesiynol wedi cyrraedd rowndiau terfynol pumed Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sy’n dathlu gweithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig ledled Cymru.

Mae disgyblion, cydweithwyr a rhieni wedi enwebu’r gweithwyr addysg proffesiynol eithriadol yn eu bywydau, ac mae’r enwebeion bellach wedi cyrraedd y rhestr fer o 29 yn y rownd derfynol ar draws deg categori, gan gynnwys ‘Pennaeth y Flwyddyn’, a ‘Gwobr Disgybl am yr Athro Gorau’.

Eleni cyflwynir categori newydd - Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig - wedi’i henwi ar ôl pennaeth du cyntaf Cymru. Bydd y wobr hon yn cydnabod unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.

Croesawyd y wobr newydd gan ferch Betty, Elaine Clarke, a ddywedodd:

Mae’r Wobr yn ffordd wych o hyrwyddo cynhwysiant pob grŵp Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac rydym yn siŵr y bydd y derbynwyr yn parhau i gael eu hysbrydoli a datblygu cenedlaethau'r dyfodol yn ôl troed ein mam.

Roedd y penderfyniad i gyflwyno ‘Gwobr Betty Campbell MBE’ i bumed Gwobrau blynyddol Addysgu Proffesiynol Cymru yn argymhelliad gan yr Athro Charlotte Williams OBE, a arweiniodd adolygiad o gwricwlwm Cymru y llynedd i argymell sut i hyrwyddo cynnwys cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, hanes, cyfraniadau a phrofiadau byw mewn ysgolion.

Dywedodd yr Athro Charlotte Williams OBE:

Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut y gallant wreiddio’r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth a wnânt.

Mae lansio’r wobr hon yn arwydd sicr bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.

Dywedodd y Gweinidog dros Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles:

Mae safon yr enwebiadau eleni, fel erioed, wedi bod yn rhagorol. Maent yn dangos ehangder y gweithwyr addysg proffesiynol ysbrydoledig sydd gennym yma yng Nghymru ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny.

Mae gennym ni gymaint o waith da yn hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan ysgolion ac addysgwyr ledled Cymru, ac mae hyn yn cael ei gydnabod gan wobr newydd Betty Campbell MBE.

Rwy’n edrych ymlaen at ddathlu’r unigolion gwych hyn sy’n mynd yr ail filltir i’w proffesiwn.

Ymunwch â’r sgwrs gyda #GwobrauAddysguCymru2022 neu dilynwch @LlC_Addysg.

Teilyngwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru 2022

Pennaeth y Flwyddyn

Meurig Jones, Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pontypŵl / Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, Pen-y-bont ar Ogwr

Kathryn Matthews, Ysgol Gymraeg Cwm Derwen, Caerffili

Defnydd Ysbrydoledig o’r Gymraeg

Elizabeth Hamlin, Ysgol Eglwys y Dre, Aberdâr

Iona Llyr, Ysgol Maes y Gwendraeth, Llanelli

Mari Salisbury, Ysgol Croes Atti, Fflint

Athro Newydd Eithriadol

Holly Gordon, Ysgol Bryn Derw ASD Special School, Casnewydd

Ifan Tomos Jenkins, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Danielle Powell, Ysgol Gynradd Pantysgallog, Merthyr Tudful

Gwobr Disgybl (neu Ddisgyblion) am yr Athro Gorau

Julia Adamson, Ysgol Gynradd Tregatwg, Y Barri

Laura Buffee, Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd, Hwlffordd

Bethan Howells, Ysgol Gyfun Treorci, Treorci

Rheolwr Busnes/Bwrsar Ysgol

Claire Coakley, Ysgol Martin Sant, Caerffili

Honora Rowlands, Ysgol Gatholig Crist y Gair, Rhyl

Sandra Sant, Ysgol Uwchradd Penarlâg, Glannau Dyfrdwy

Cefnogi Athrawon a Dysgwyr

Carolyn Platt, Ysgol Bryn Elian, Bae Colwyn

Gill Sullivan, Ysgol Uwchradd Maesteg, Maesteg

Tîm Cefnogi Ysgol Glan Clwyd, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd

Lee Arthur, Ysgol Gynradd Llanharan, Pontyclun

Sean Jones, Ysgol Glan Gele, Abergele

Charmaine Riley, Ysgol Gynradd Radyr, Radyr

Athro’r Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd

Kate Jones, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Llanelwy

Lucy Morgan, Ysgol y Deri, Penarth

Mark Morgan, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Merthyr Tudful

Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion a’r Gymuned

Nigel Bowie, Awdurdod Lleol, Bro Morgannwg

Chris Gledhill, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy, Conwy

Christian Williams, Ysgol Gyfun Heolddu, Caerffili

Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig – newydd ar gyfer 2022

Ysgol Uwchradd Llanwern, Casnewydd

Ysgol Gynradd Doc Penfro, Doc Penfro

Ysgol Penyffordd, Penyffordd