Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams heddiw fod rheolau newydd i gael eu cyflwyno, sy'n cynnwys rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau yng Nghymru.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn creu cronfa newydd werth £2.5 miliwn y flwyddyn i helpu ysgolion i weithio gyda'i gilydd ac i gynyddu defnydd o adeiladau ysgolion gan y gymuned.
Bydd newidiadau i’r Cod Trefniadaeth Ysgolion sy'n rhoi arweiniad i awdurdodau lleol wrth wneud penderfyniadau am ysgolion. Byddant yn cynnwys:
- Rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau;
- Rhaid i achosion i gau ysgolion gwledig fod yn gryf;
- Rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori'n fwy trylwyr, ac ystyried mewn modd cydwybodol, bob opsiwn ymarferol arall i gau ysgolion, gan gynnwys creu cysylltiadau ag ysgolion eraill, a elwir yn ffedereiddio.
Mae cynlluniau eraill yn cynnwys:
- Grant newydd gwerth £2.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer ysgolion gwledig ac ysgolion bach i gefnogi cydweithio rhwng ysgolion. Mae hyn yn cynnwys annog mwy o ddefnydd o dechnoleg i fynd i'r afael â phroblemau megis ynysu proffesiynol, darparu cymorth gweinyddol mewn ysgolion lle y mae gan y pennaeth ymrwymiadau addysgu sylweddol, a chynyddu defnydd o adeiladau ysgolion gan y gymuned. Bydd y grant hwn ar gael o fis Ebrill 2017 ymlaen.
- Am y tro cyntaf erioed, byddwn yn datblygu diffiniad o 'ysgol wledig'.
- Bydd cyllid ar gael ar gyfer datblygu ffederasiynau ar draws yr holl ysgolion a gynhelir, a gwybodaeth a chanllawiau gwell ar gyfer y rheini sy'n ystyried cydweithio a ffedereiddio.
- Bydd cynlluniau i ddatblygu arweinwyr ysgolion yn cynnwys cynigion i feithrin gallu arweinwyr profiadol a llwyddiannus mewn ysgolion gwledig, er mwyn darparu arweinyddiaeth effeithiol ar draws grwpiau o ysgolion gwledig.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rôl bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd.
“Mae disgyblion mewn ysgolion gwledig yn haeddu'r un cyfleoedd â phlant mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, maen nhw'n wynebu heriau penodol gan gynnwys niferoedd isel o ddisgyblion, pwysau o ran cyllid ac adnoddau, yn ogystal ag anawsterau mwy o ran recriwtio penaethiaid a staff dysgu.
“Gadewch i mi ddweud yn gwbl glir - nid mater o gadw pob ysgol ar agor yw hyn. Rydyn ni am godi safonau yn ein hysgolion i gyd, ble bynnag y maen nhw, a sicrhau bod pob ysgol yn cael gwrandawiad teg os yw ei dyfodol yn y fantol.
“Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau a chymhellion newydd i ysgolion gwledig greu cysylltiadau a gweithio gyda'i gilydd er lles athrawon a disgyblion. Rwy am weld ysgolion gwledig yn gweithio'n fwy ffurfiol gyda'i gilydd a ledled y wlad, gan ffurfio ffederasiynau ac ystyried y posibilrwydd o rannu adeiladau gyda gwasanaethau eraill, er mwyn sicrhau y bydd adeiladau ysgol yn parhau i fod yn hyfyw.”