Neidio i'r prif gynnwy

Mae safonau newydd wedi cael eu cyhoeddi i wella gofal a thriniaeth materion iechyd esgyrn ac atal mwy o bobl rhag dioddef toriadau poenus a nychus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae toresgyrn yn effeithio ar hanner y menywod dros 50 oed, ac un o bob pump o ddynion, a gall gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn.

Mae'r datganiad ansawdd newydd ar gyfer osteoporosis ac iechyd esgyrn yn rhoi fframwaith ar gyfer darparu gofal, gan gynnwys gwaith atal, triniaeth a chefnogi adferiad, i bobl sy'n dioddef o gyflyrau esgyrn fel osteoporosis.

Ac mae'n cynnwys ymrwymiad newydd i gwrdd â'r safon 80/50/80 erbyn 2030 – mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i adnabod 80% o gleifion sy'n torri esgyrn; rhoi 50% ohonynt ar driniaeth esgyrn a rhoi apwyntiad dilynol i 80% ar ôl 12 mis i sicrhau eu bod yn cadw at y driniaeth, a’u bod felly yn wynebu llai o risg o doriadau dilynol.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rydym yn amlinellu ein gweledigaeth i sicrhau'r gofal a'r driniaeth orau bosibl ar gyfer iechyd esgyrn pobl yng Nghymru a sicrhau ein bod yn hyrwyddo iechyd esgyrn drwy gydol oes unigolyn.

Datblygwyd y safonau ar gyfer osteoporosis ac iechyd esgyrn mewn cydweithrediad â'r arweinwyr clinigol cenedlaethol ar gyfer osteoporosis ac iechyd esgyrn, y rhwydwaith clinigol strategol ar gyfer iechyd cyhyrysgerbydol a phartneriaid yn y trydydd sector.

Mae'r datganiad ansawdd wedi’i ddatblygu yn dilyn cyflwyno gwasanaethau cyswllt toresgyrn ar draws Cymru.

Bydd gofal iechyd esgyrn ac osteoporosis da yn cael ei ddarparu trwy dargedu pum grŵp allweddol, gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar atal toresgyrn yn y bobl fwyaf agored i niwed a'r rhai ag anghenion heb eu diwallu.

Mae'r grwpiau blaenoriaeth yn cynnwys torasgwrn breuder yn y rhai dros 50 oed; atal pobl ag eiddilwch a dementia rhag torri asgwrn; iechyd esgyrn mewn grwpiau risg uchel; iechyd esgyrn mewn menywod ar ôl y menopos; ac iechyd esgyrn yng Nghymru.

Mae pob bwrdd iechyd wedi gwneud ymrwymiad hirdymor i barhau i ddatblygu a gwella eu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion eu cymunedau lleol a lleihau effeithiau cwympiadau a thoresgyrn ar unigolion ac ar y GIG.

Dywedodd Dr Inder Singh, arweinydd clinigol cenedlaethol Cymru ar gyfer cwympiadau ac eiddilwch:

Rwy'n falch o nodi cyhoeddi'r datganiad ansawdd hwn ar gyfer iechyd esgyrn, a fydd yn cefnogi ein GIG i gynllunio a darparu’r gwasanaethau iechyd esgyrn y mae pobl Cymru yn eu haeddu.

Ni wnaethom gyflawni'r gwaith hwn ar ein pen ein hunain, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd eu hamser a'u cefnogaeth i'n helpu ni i ddatblygu set o safonau cydweithredol a chynhwysol.

Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda byrddau iechyd, ein trydydd sector ymroddedig a'n llywodraeth i weithredu'r safonau hyn a chyflawni ein nodau cenedlaethol cyffredin.

Mae Craig Jones, Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Frenhinol Osteoporosis, yn croesawu'r safonau newydd.

Dywedodd:

Osteoporosis yw un o'r bygythiadau mwyaf brys a fydd yn atal pobl yng Nghymru rhag byw'n dda pan fyddant yn hyn - yn enwedig menywod. Dyna pam mae'r gwasanaethau diagnosis cynnar hyn mor hanfodol, gan eu bod yn rhoi mynediad i bobl at feddyginiaeth ddiogel ac effeithiol a all atal toresgyrn a'u galluogi i fyw'n annibynnol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu llwybr credadwy i roi mynediad i bawb dros 50 oed at wasanaeth lleol o ansawdd uchel erbyn 2030. Pan fydd y llywodraeth yn cyflawni hyn, byddwn yn gallu sicrhau bod pobl yn gallu cael y dyfodol y maen nhw'n ei haeddu. Dim mwy o dorri esgyrn. Dim mwy o chwalu bywydau.