Cyhoeddwyd cynigion newydd i gynyddu tryloywder yn y sector gofal cymdeithasol er mwyn i bobl fedru gwneud dewisiadau doeth am y gofal maen nhw, neu eu hanwyliaid, yn ei dderbyn.
Dan y cynlluniau bydd darparwyr gwasanaethau sy'n cael eu rheoleiddio yng Nghymru, gan gynnwys cartrefi gofal, yn gorfod paratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol yn nodi'r math o wasanaethau y maent yn eu cynnig a'u hansawdd.
Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), rheoleiddiwr y gwasanaethau gofal, wrth ochr eu hadroddiad diweddaraf. Bydd yn cynnwys manylion am eu lefelau staffio, trosiant staff, cwynion ffurfiol ac amrywiol faterion eraill i helpu pobl i wneud penderfyniadau hanfodol am y gwasanaethau maent yn eu defnyddio.
Ar yr un pryd, bydd gofyn i awdurdodau lleol gynhyrchu adroddiadau tebyg ynghylch sut y cyflawnwyd eu swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl Cymru ac AGGCC gymharu gwasanaethau ar draws awdurdodau lleol, ac fe ddylai ysgogi gwelliannau.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys adolygiad o drefn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau ei fod yn unol ag arfer gorau'r DU a bod modd ei addasu i drawsnewid y sector ehangach. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i Gofal Cymdeithasol Cymru gadw cofrestr o'r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan roi amlinelliad o gymwysterau, gwybodaeth a sgiliau'r unigolion, yn ogystal â rhestr o'r bobl sydd wedi'u tynnu o'r gofrestr.
Bydd y system ddiwygiedig o reoleiddio'r gweithlu'n helpu i sicrhau fod pobl agored i niwed yn cael eu hamddiffyn yn briodol, yn ogystal ag amddiffyn hawliau gweithwyr unigol.
Mae'r cynigion yn rhan allweddol o'r cam cyntaf o roi Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ar waith. Bydd y Ddeddf, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 18 Ionawr 2016, yn diwygio'r system rheoleiddio er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal urddasol, diogel a phriodol.
Bydd y cynigion hefyd yn diffinio'r math o wasanaethau eiriolaeth a fydd yn destun rheoleiddio dan y Ddeddf. Y nod yw canolbwyntio'r rheoliadau ar y meysydd lle bydd yn gwneud y mwyaf o les.
Dywedodd Vaughan Gething Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
"Mae gofal cymdeithasol yn cyffwrdd bywydau pawb yng Nghymru. Mae'n bosibl y byddwn ni neu'n hanwyliaid angen defnyddio cartref gofal neu gael cymorth i barhau i fyw'n annibynnol yn ein cartrefi rhyw bryd. Felly mae’n hanfodol i'r system rheoleiddio ac arolygu fod yn gadarn.
"Roedd y Ddeddf a basiwyd ym mis Ionawr yn gosod gweledigaeth ar gyfer sector gofal cymdeithasol sy’n gryf ac yn ddiogel, sy'n trin pobl ag urddas ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Mae manylion y system ddiwygiedig hon yn cael eu gosod mewn dau gam.
"Mae'r set gyntaf o gynigion yn canolbwyntio ar dryloywder - sicrhau bod gan bobl Cymru'r holl wybodaeth angenrheidiol i gymharu gwasanaethau. Hefyd maen nhw'n adnewyddu'r ddeddfwriaeth ynghylch y gweithlu gofal cymdeithasol ei hun, gan gydbwyso'r angen am ddiogelu'r cyhoedd gyda hawliau gweithwyr unigol."
Mae pobl o bob cwr o Gymru'n cael eu hannog i ddweud eu barn drwy ymgynghoriad Llywodraeth Cymru, a agorodd heddiw. Bydd yr ymgynghoriad yn para am ychydig dros 12 wythnos, ac yn dod i ben am ganol nos ar 20 Medi.