Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu cynlluniau i ganiatáu i garcharorion a phobl ifanc sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru sydd yn y ddalfa yn y DU, ac sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd, bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi manylion gwelliannau i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd ar ei hynt drwy’r Senedd ar hyn o bryd, i ganiatáu i’r newidiadau gael eu gwneud.

Bydd y gwelliannau i’r Bil yn golygu bod tua 1,900 o garcharorion sy’n oedolion ac 20 o bobl ifanc sy’n y ddalfa yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau llywodraeth leol arferol nesaf (ar draws yr holl brif gynghorau a chynghorau cymuned) sydd i’w cynnal ym mis Mai 2022.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol:

Cafodd yr egwyddor o roi’r bleidlais i rai carcharorion o leiaf ei chefnogi mewn ymgyngoriadau a gynhaliwyd gan Senedd Cymru a Llywodraeth Cymru. Awgrymodd pwyllgor o’r Senedd y dylid ymestyn yr etholfraint i garcharorion a phobl ifanc sy’n y ddalfa sydd wedi cael dedfryd o lai na phedair blynedd.

Cyfeiriodd yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad at hawliau dynol a dinasyddiaeth y carcharorion, ynghyd â’r manteision o safbwynt adsefydlu troseddwyr a ddaw yn sgil ymestyn yr etholfraint, fel rhesymau pam y dylid caniatáu iddyn nhw bleidleisio.  

Fodd bynnag, nid ydym yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bob carcharor a pherson ifanc sydd yn y ddalfa. Dw i o’r farn bod ein polisi yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng anfon negeseuon cryf a chadarnhaol i garcharorion bod ganddyn nhw ran o hyd mewn cymdeithas a chydnabod natur, difrifoldeb ac amgylchiadau’r troseddau a gyflawnwyd. Golyga’r trothwy o bedair blynedd ar unrhyw ddedfryd na fydd y troseddwyr mwyaf difrifol yn cael yr hawl i bleidleisio.

Byddai carcharorion cymwys yn cofrestru i bleidleisio ar y sail bod ganddynt gysylltiad â chyfeiriad yng Nghymru. Efallai mai eu cartref teuluol fydd y cyfeiriad hwnnw, neu gyfeiriad lle yr oeddynt yn arfer preswylio neu, os ydynt yn ddigartref, gyfeiriad y byddant yn gallu dangos bod ganddynt gysylltiad ag ef.

Ni fyddai unrhyw garcharor yn gallu defnyddio cyfeiriad y carchar wrth gofrestru i bleidleisio. Ni fyddai carcharorion o Loegr nac o unrhyw le arall sydd mewn carchardai yng Nghymru yn gallu cofrestru i bleidleisio yn etholiadau llywodraeth leol Cymru oni bai bod modd iddynt ddangos bod ganddynt gysylltiad â chyfeiriad arall yng Nghymru.

Dim ond drwy’r post neu drwy ddirprwy y byddai carcharorion yn gallu pleidleisio – ni fyddai unrhyw orsafoedd pleidleisio mewn carchardai.

Os bydd carcharorion yn dewis arfer eu hawl i bleidleisio, bydd angen iddynt allu clywed gan ymgeiswyr, a gweld taflenni gwybodaeth am yr etholiad yn ogystal ag elwa ar y cyfryngau Cymreig. Mae hyn yn hanfodol er mwyn iddynt gael gwybod am y materion a gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio dod i gytundeb â Llywodraeth y DU i alluogi carcharorion o Gymru ym mhob rhan o’r ystad carchardai i gael mynediad at wybodaeth berthnasol a lleihau’r rhwystrau posibl rhag cofrestru a bwrw eu pleidlais.   

Bydd y Bil hefyd yn ymestyn yr etholfraint i ddinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru. Byddai unrhyw garcharor sy’n bodloni’r meini prawf hyn yn cael ei etholfreinio.

Cyn i bwerau dros etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu datganoli yn 2018, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol yn haf 2017. 

Roedd 50% o’r ymatebwyr yn cefnogi’r cynnig i roi’r hawl i bleidleisio i garcharorion, o’i gymharu â 48% a oedd yn gwrthwynebu. Ni fynegwyd unrhyw farn gan 2% o’r ymatebwyr.