Mae pecyn mawr newydd o ddiwygiadau i lywodraeth leol yng Nghymru, sy'n cynnwys rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol wedi'i ddatgelu gan Lywodraeth Cymru.
Mae Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gaiff ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nes ymlaen heddiw gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, yn darparu ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethiant.
Bydd y Bil yn bywiogi democratiaeth leol yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i bobl weld a dylanwadu ar waith y rhai sy'n eu cynrychioli a bod yn rhan o'r gwaith hwnnw, ac ehangu'r ystod o bobl sy'n gallu pleidleisio a sefyll i'w hethol.
Mae cynigion i newid y gwaith i'w gwneud yn bosibl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau cynghorau lleol yn rhan o'r newid mwyaf yn system etholiadol Cymru ers 50 o flynyddoedd - pan gafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng i 18 yn ystod y 1970au.
Bydd y Bil hefyd yn grymuso 22 prif gyngor Cymru, gan roi iddynt yr arfau a'r pwerau y maent wedi gofyn amdanynt i fod yn uchelgeisiol ac yn greadigol, ac i weithio'n hyblyg i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl yng Nghymru.
Bydd y Bil hefyd yn cefnogi cynghorau i gydweithio ar draws ffiniau daearyddol a gweinyddol, gan gadw atebolrwydd â phobl leol.
A hithau'n cyflwyno'r Bil, dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James:
Rwy'n credu mewn llywodraeth leol gref. Rydyn ni am iddi ffynnu, ac i bobl Cymru deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u cefnogi'n dda gan wasanaethau cyhoeddus modern, ac rydyn ni am i'r berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod yn aeddfed a chanolbwyntio ar ein hagenda gyffredin - sef darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb, gan helpu pobl y mae arnynt angen cymorth, pan fo'i angen fwyaf.
Mae'r Bil yn cael ei gyflwyno ar adeg o gyni parhaus, pan fo gwahanol fathau o berthynas a thechnoleg yn newid y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymwneud â'i gilydd ac â'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Felly, ugain mlynedd ar ôl datganoli, mae hwn yn Fil Llywodraeth Leol o bwys sy'n adlewyrchu hynt datganoli ac fe fydd yn darparu pecyn o ddiwygiadau pwysig, gan gynnwys diwygio etholiadau llywodraeth leol.
Mae'n anelu at roi ffyrdd newydd i lywodraeth leol o gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau ar yr adeg heriol hon, wrth ailfywiogi democratiaeth leol yma yng Nghymru.
Mae'r Bil hefyd yn cyflwyno pwerau i:
- Ganiatáu i bob cyngor penderfynu drosto'i hun pa system bleidleisio i'w defnyddio – Y Cyntaf i'r Felin (FPTP) neu Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV); bernir bod STV yn system o ‘gynrychiolaeth gyfrannol’
- Ei gwneud yn haws i bobl gael eu cynnwys ar y rhestr etholiadol, trwy roi i swyddogion cofrestru etholiadol y pŵer i ychwanegu pobl at y gofrestr yn awtomatig, heb fod angen iddynt wneud cais
- Hwyluso arbrofi gyda diwygiadau i etholiadau llywodraeth leol ar ôl 2022, megis cynnal etholiadau ar ddiwrnodau gwahanol a chael gorsafoedd pleidleisio mewn gwahanol leoedd
- Bydd llywodraeth leol yn symud at gyfnodau pum mlynedd benodedig rhwng etholiadau
- Rhoi cyfle i bob dinesydd tramor sy'n byw yng Nghymru'r cyfle i bleidleisio mewn etholiad lleol a sefyll ynddynt, ni waeth beth fo eu cenedligrwydd
- Galluogi swyddi i gael eu rhannu yng Ngweithrediaeth y Cyngor gan gynnwys swydd yr Arweinydd, a diweddaru darpariaethau i alluogi cynghorwyr i fynychu cyfarfodydd cyngor o bell a chael cyfnodau o absenoldeb teuluol
- Caniatáu i brif gynghorau gael eu huno'n wirfoddol i sicrhau, lle y caiff y llwybr hwn ei gymryd, fod y broses yn cael ei chwblhau yn drefnus ac yn dwyn ffrwyth yn y ffordd orau bosibl i ddefnyddwyr gwasanaethau.
Mae'r Bil wedi cael ei ddatblygu dros bum mlynedd – i gefnogi gweledigaeth y Gweinidogion ar gyfer llywodraeth leol, gan gydweithredu â llywodraeth leol ac mewn ymateb i bum ymarfer ymgynghori, Bil drafft a gweithio mewn partneriaeth yn barhaus â llywodraeth leol.