Neidio i'r prif gynnwy

Sut byddwn yn asesu cyflwr pob ysgol a choleg i ddatblygu trywydd di-garbon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Comisiynwyd Aecom Ltd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu asesiad sylfaenol o gyflwr yr ystad addysg yng Nghymru. Roedd yr arolwg yn cynnwys yr holl ysgolion a cholegau addysg bellach a ariennir gan y wladwriaeth, er mwyn ein galluogi i ddatblygu map trywydd carbon sero net ar gyfer pob ased. Bydd hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol a cholegau i ddatgarboneiddio'r ystad addysg ledled Cymru.

Ar gyfer pob elfen a all gyfrannu at ddatgarboneiddio, aseswyd y canlynol:

  • cyflwr
  • perfformiad
  • cyfnod oes

Defnyddir y canlyniadau i greu IGP lefel uchel ar sut i sicrhau datrysiad carbon isel sy'n cynnig gwerth am arian ac y gellir ei roi ar waith fesul cam. Bydd hwn ar gael ar gyfer pob adeilad unigol.

Nid yw dichonoldeb, cynllun, manylion na chaffael y datrysiad yn rhan o'r comisiwn hwn. Bydd hyn i'w ystyried ar lefel leol gan y partneriaid cyflenwi unigol.

Arolygon

Roedd yr arolygon yn casglu gwybodaeth lefel uchel am elfennau:

  • a allai gyfrannu at ddatgarboneiddio'r ystad addysg
  • sy'n gysylltiedig â chyflwr a hyd oes yr elfennau hynny

Nid oedd yr arolygon yn cynnwys tiroedd nac yn mynd i unrhyw fanylion ar orffeniadau o fewn adeiladau.

Bydd gan bob partner cyflenwi fynediad at yr arolwg trwy ar borth ar-lein. Bydd yn cynnwys:

  • asesiad o'r carbon a arbedwyd
  • pa mor agos at sero net y gellir gwneud unrhyw gynnig
  • cynnal gwerth am arian

Casglu data

Mae data a gesglir yn cael eu storio ar feddalwedd a ddatblygwyd gan Aecom o'r enw Ocean. Mae wedi'i deilwra i ddarparu ar gyfer anghenion penodol ein comisiwn. Bydd gan bob partner cyflenwi fynediad at y system lle bydd eu data ar gael.

Bydd y data a gesglir o'r arolygon yn cael eu defnyddio gan Aecom i greu map trywydd ar gyfer pob eiddo gan roi syniad o:

  • arbedion carbon pob cam
  • a oes modd cyflawni carbon sero net heb wrthbwyso oddi ar y safle

Amserlen

Bydd yr arolygon yn cael eu cwblhau dros yr haf. Bydd data ar gael ar y porth erbyn diwedd mis Medi 2024.

Bydd hyfforddiant ar-lein yn cael ei ddarparu i bartneriaid cyflenwi a'r dyddiad hyfforddi cychwynnol fydd 10 Medi 2024.