Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad ymchwil hwn yn cyfrannu at osod sylfeini ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol ym maes datgarboneiddio diwydiant a busnes yng Nghymru.

Ym mis Rhagfyr 2021, comisiynodd Llywodraeth Cymru Miller Research i gynnal gwaith ymchwil ynghylch datgarboneiddio diwydiant a busnes. Canolbwyntiodd y gwaith ymchwil hwn ar sut y gall ffynonellau data presennol gael eu gwella neu sut y gellir ychwanegu atynt er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o allyriadau nwyon tŷ gwydr

Mae’r adroddiad cyntaf yn seiliedig ar gyfres o gyfweliadau cwmpasu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill ynghyd â dadansoddiad o’r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol a ffynonellau data eraill. 

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at sawl her sydd ynghlwm wrth amcangyfrif yn gywir allyriadau busnes a diwydiant yng Nghymru. Caiff cyfres o argymhellion i orchfygu’r heriau hyn eu cyflwyno. Mae’r rhain yn cynnwys trydaneiddio data, ehangu’r casgliad o ddata ac ymgorffori ffynonellau data presennol.  

Cafodd yr ail adroddiad, ‘Allyriadau aer a chyfrifon ynni ar gyfer Cymru: methodoleg a chanlyniadau’, ei gomisiynu yn 2021 gan Ricardo Energy & Environment. Mae’r ail adroddiad yn amlinellu’r rhest o allyriadau atmosfferig a’r defnydd o ynni o fewn Cymru ac mae’n Sylfaen i’r Cyfrifon Aer ac Ynni ar gyfer Cymru. 

Y cyhoeddiad terfynol yw’r data sy’n gysylltiedig â’r ail adroddiad.

Adroddiadau

Datgarboneiddio diwydiant a busnes , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyfrifon allyriadau awyr ac ynni ar gyfer Cymru: methodoleg a chanlyniadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 511 KB

PDF
511 KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Neil Waghorn

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.