Neidio i'r prif gynnwy

Yn yr 20 mlynedd ers i Gymru bleidleisio o blaid datganoli, mae'n cyfradd ailgylchu wedi codi o lefel ychydig yn is na 5% i 64% − y gyfradd orau ond dwy yn y byd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ffigurau ailgylchu terfynol ar gyfer 2016/17 yn dangos bod y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar draws 22 awdurdod lleol Cymru yn 64% ar gyfartaledd, sy'n gynnydd o 4 pwynt canran o gymharu â'r ffigur terfynol ar gyfer y llynedd a 59 pwynt canran yn uwch na'r gyfradd ym 1998/99, pan gafodd y data eu casglu am y tro cyntaf ar ôl datganoli. Mae hefyd 6 phwynt canran yn uwch na'r Targed Ailgylchu Statudol o 58%.

Wrth groesawu'r ystadegau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o safbwynt ailgylchu, ac mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn cadarnhau ein bod yn rhagori ar y targed uchelgeisiol o 58%. Mae'n galonogol hefyd fod Ceredigion eisoes wedi cyrraedd y targed o 70% a bennwyd gennym ar gyfer 2025”. 


Mae ffigurau pellach a gyhoeddwyd heddiw (dolen allanol) yn dangos bod gostyngiad o 89% ym maint y gwastraff trefol bioddiraddiadwy y mae awdurdodau lleol yn ei anfon i safleoedd tirlenwi ers blwyddyn lawn gyntaf y cynllun yn 2005-06. Anfonodd yr awdurdodau 90,827 o dunelli o wastraff bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi yn 2016-17, sy'n 77% yn llai na'r lwfans cyfreithiol o 390,000 o dunelli. Llwyddodd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol i gyflawni'r lwfansau unigol a roddwyd iddynt.

Mae anfon llai o wastraff bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae hynny, yn ei dro, yn atal methan rhag cael ei gynhyrchu a'i ollwng i'r aer o safleoedd tirlenwi.  

Dywedodd Lesley Griffiths:

 

 

"Mae'n wych gweld hefyd fod gostyngiad i'w weld o'r naill flwyddyn i'r llall ym maint y gwastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu. Yr hyn sydd i gyfrif am y llwyddiant hwnnw yw ymrwymiad yr awdurdodau lleol a deiliaid tai i ailgylchu. Drwy gydweithio,, gallwn ni barhau i wella."


Ychwanegodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

 

 

 

 

“Mae'n wych gweld bod yr awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â'r her hon. Mae'r ffaith bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yn dangos ein bod yn rheoli'n hadnoddau mewn ffordd fwy cynaliadwy a gwell.

“Wedi dweud hynny, mae llawer iawn o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn dal i gael eu taflu. Mae hyn yn dangos bod cyfleoedd pellach i barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd ag y bo modd wrth inni anelu at newid i economi gylchol.

"Drwy gynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu cymaint â phosibl, gallwn ni sicrhau ein bod yn rheoli'n hadnoddau'n well. Mae pen draw ar yr adnoddau hynny felly byddai hynny o fudd i bobl, economi ac amgylchedd Cymru."