Neidio i'r prif gynnwy

"Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn gwbl glir – ni all Llywodraeth y DU ddechrau Erthygl 50 drwy ddefnyddio uchelfraint y Goron."

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones:

“Mae penderfyniad yr Uchel Lys yn gwbl glir – ni all Llywodraeth y DU ddechrau Erthygl 50 drwy ddefnyddio uchelfraint y Goron. Yn wir, mae hyn yn gyson â llawer o’r dadleuon a wnaed gan aelodau’r ymgyrch dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd eu hunain mewn perthynas â sofraniaeth seneddol. Yn fy marn i, camgymeriad yw herio penderfyniad sydd mor glir a dylem geisio symud ymlaen yn awr i feithrin dealltwriaeth well o sefyllfa Llywodraeth y DU.  

“Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson gydol yr amser - rydym yn derbyn y penderfyniad a wnaed gan y bobl ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i gael y telerau gorau posibl i Gymru ar gyfer ymadael â’r UE. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod pobl y pedair cenedl yn bwrw pleidlais er mwyn cryfhau sefyllfa negodi’r DU.”