Neidio i'r prif gynnwy

Gall unrhyw aelod o Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad cabinet.

Gweld pob datganiad cabinet >

Mae 2 fath o ddatganiad Cabinet:

Llafar

Gall aelod o Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad llafar i'r Cynulliad yn ystod y cyfarfod llawn ar ddydd Mawrth neu ddydd Mercher. Yn aml caiff sesiwn holi ac ateb ei gynnal ar ôl datganiad o'r fath. Mae Cod y Gweinidogion yn pennu y dylai'r cyhoeddiadau pwysicaf ynghylch polisïau Llywodraeth Cymru gael eu gwneud yn y Cynulliad.

Ysgrifenedig

Gall aelod o Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ysgrifenedig i Aelodau'r Cynulliad unrhyw adeg. Nid oes cyfle i gynnal sesiwn holi ac ateb dilynol.

Yma, mae "aelod o Lywodraeth Cymru" yn golygu'r Prif Weinidog, un o Ysgrifenyddion y Cabinet, y Cwnsler Cyffredinol neu un o Weinidogion Cymru.