Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Yn fy natganiad llafar ar 18 Chwefror, dywedais y byddwn yn cyhoeddi adroddiad am ail flwyddyn y rhaglen brechu moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys cyn toriad y Pasg. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwnnw heddiw.
Mae’r adroddiad yn nodi bod dros 1350 o foch daear wedi cael eu dal a’u brechu yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn 2013. Yn 2012, brechwyd ychydig dros 1400 o foch daear.
Mae’r prosiect pum mlynedd i frechu moch daear yn y Gorllewin yn rhan o raglen waith ehangach Llywodraeth Cymru i ddileu TB gwartheg.
Rhwng mis Mai a mis Tachwedd y cynaliwyd y gwaith brechu, mewn wyth cylch o dair wythnos. Roedd y gwaith o baratoi a chydgysylltu â’r perchnogion tir yn digwydd ym mhythefnos cyntaf y cylch ac yna roedd y brechu’n digwydd yn y drydedd wythnos.
Mae llwyddiant ein prosiect brechu moch daear yn dibynnu ar gael mynediad at gymaint o dir â phosibl. Cynllun gwirfoddol yw hwn, felly rwy’n falch iawn bod ein staff wedi cael caniatiâd i fynd ar fwy o dir nag yn y flwyddyn flaenorol. Hoffwn ddiolch i’r ffermwyr a pherchnogion tir am eu cydweithrediad parod.
Rydym yn monitro canlyniadau’r brechu a gweddill y rhaglen dileu TB yn ofalus er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd da tuag at ein nod o gael gwared ar TB yn llwyr o Gymru.
Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod lefelau TB Gwartheg yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol a bod bron chwarter yn llai o achosion newydd o’r clefyd o’i gymharu â llynedd.