Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Rwy'n ymrwymedig i sicrhau bod ein llyfrgelloedd cyhoeddus yn ganolfannau cymunedol croesawgar sy'n darparu amrywiaeth o wasanaethau digidol, llythrennedd a diwylliannol, yn ogystal â rhoi mynediad i wasanaethau eraill. Ers mis Hydref 2014, mae fy swyddogion yn yr Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio gyda'r sector llyfrgelloedd i weithredu argymhellion yr Adolygiad Arbenigol ac Adroddiad Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Y cyflawniad mwyaf diweddar yw cyhoeddi'r adroddiad Pennu Cwmpas Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Newydd i Gymru. Mae'r adroddiad hwn yn ystyried opsiynau ar gyfer rheoli llyfrgelloedd cyhoeddus yn y dyfodol.
Bydd y strategaeth genedlaethol nesaf ar gyfer llyfrgelloedd yn adeiladu ar arfer gorau a gyflawnwyd yn ystod strategaeth Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, ond bydd angen iddi ystyried cyd-destunau ariannol anodd. Mae'r adroddiad Pennu Cwmpas yn nodi bod y llyfrgell fel canolfan gymunedol, sy'n rhoi mynediad i wahanol wasanaethau lleol, yn fodel posibl i'r dyfodol. Mae rhaglen gyfalaf Llywodraeth Cymru ar gyfer moderneiddio llyfrgelloedd lleol bellach yn canolbwyntio ar gefnogi canolfannau cymunedol amlwasanaeth. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd dros 100 o lyfrgelloedd wedi cael eu moderneiddio fel rhan o'r cynllun grant hwn erbyn mis Mawrth 2016. Mae fy swyddogion wrthi'n cwblhau ymarfer mapio i asesu lleoliad a chapasiti llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru, a chaiff y canfyddiadau hyn eu defnyddio mewn gwaith cynllunio yn y dyfodol.
Datblygiad diweddar yw'r camau i sefydlu llyfrgelloedd bach a reolir gan gymunedau, a fyddai wedi cael eu cau fel arall. Mae parodrwydd cymunedau lleol i helpu i ddarparu'r gwasanaeth yn dyst i'r gwerth y maent yn ei roi ar lyfrgelloedd. Cyhoeddais y ddogfen Canllawiau ynghylch Llyfrgelloedd a Reolir gan Gymunedau a Darpariaeth Statudol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru ym mis Mai 2015, mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid, er mwyn egluro'r amgylchiadau lle gallai'r llyfrgelloedd hyn gael eu cynnwys o fewn darpariaeth statudol. Mae'r canllawiau yn seiliedig ar 18 hawl graidd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru. Mae fy swyddogion yn parhau i ddefnyddio'r Safonau fel eu prif ffordd o sicrhau bod awdurdodau lleol yn darparu gwasanaethau llyfrgell o ansawdd er budd pawb.
Mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan bwysig wrth leihau'r gagendor digidol, gan gynnwys mynediad am ddim i'r Rhyngrwyd a chyfrifiaduron a helpu pobl i wella eu sgiliau digidol. Mae staff llyfrgelloedd yn helpu mwy o bobl y mae angen iddynt fynd ar-lein am y tro cyntaf, o ganlyniad i gynllun llywodraeth y DU sy'n golygu mai dim ond ar-lein y gellir cael budd-daliadau lles a chymorth cyflogaeth.
Mae llyfrgelloedd yn dibynnu ar weithlu proffesiynol effeithlon ac effeithiol. Rwyf wedi comisiynu adolygiad strategol o weithlu llyfrgelloedd yng Nghymru er mwyn helpu i lywio gwaith cynllunio yn y dyfodol.
Bydd y strategaeth llyfrgelloedd nesaf i Gymru yn pwysleisio elfennau cymunedol, elfennau digidol ac elfennau'n ymwneud â'r gweithlu yn ogystal ag adolygu cyfleoedd ychwanegol i gaffael ar y cyd, a fydd yn helpu i sicrhau gwell gwerth a mwy o ddewis i ddefnyddwyr. Ym mis Awst 2015, cyhoeddais y cytundeb i sefydlu System Rheoli Llyfrgelloedd ledled Cymru ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus, a fydd yn arwain at gyflwyno un cerdyn llyfrgell ar gyfer Cymru gyfan. Caiff y system ei chyflwyno i ddechrau yn y chwe gwasanaeth llyfrgelloedd yn y Gogledd a bydd yn weithredol yn 2016, gan gynhyrchu arbedion costau posibl o hyd at 70% o gymharu â gwariant presennol ar y seilwaith hwn.
Yn ogystal â chynllunio i'r dyfodol, mae'r strategaeth llyfrgelloedd genedlaethol arloesol a llwyddiannus, Llyfrgelloedd yn Ysbrydoli, yn cyfrannu tuag at amcanion y Rhaglen Lywodraethu, megis gwella llythrennedd. Erbyn mis Mawrth 2016, bydd menter Pob Plentyn yn Aelod o Lyfrgell wedi cael ei chyflwyno ledled Cymru, gyda'r nod o sicrhau bod 35,000 o blant 8 a 9 oed yn cael eu cofrestru'n awtomatig â'u gwasanaeth llyfrgelloedd cyhoeddus.
Mae rôl llyfrgelloedd wrth drechu tlodi yn ganolog i nodau'r Rhaglen Cyfuno a lansiais ym mis Mai 2015. Rydym yn defnyddio'r fframwaith a ddarparwyd gan argymhellion adroddiad arloesol y Farwnes Andrews, Diwylliant a Thlodi (2014), i annog pobl i gyfrannu a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yn ein hardaloedd difreintiedig. Mae cystadleuaeth lwyddiannus ddiweddar, Storïau Rygbi, a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Undeb Rygbi Cymru, yn enghraifft o'r ffordd y gellir defnyddio llyfrgelloedd i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau i hyrwyddo llythrennedd.
Bydd angen i'n llyfrgelloedd fod yn arloesol ac yn hyblyg yn y dyfodol. Er gwaetha'r heriau ariannol presennol, mae'r gwerth a roddir ar ein llyfrgelloedd yn golygu bod yn rhaid i bob un ohonom sicrhau eu bod yn parhau i weithredu fel gwasanaethau a mannau bywiog, dibynadwy a pherthnasol.