Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau: cynllun gweithredu ar gyfer Cymru 2015-2020 yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu addysg sy'n manteisio ar fyd cyfoethog o brofiadau drwy'r celfyddydau, sy'n hybu sgiliau creadigol ac sy'n cefnogi ysgolion i ddatblygu arferion a fydd yn eu paratoi ar gyfer ein cwricwlwm newydd.

Heddiw, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cyhoeddi Dysgu creadigol drwy'r celfyddydau: cynllun gweithredu ar gyfer Cymru, Adroddiad Blynyddol Cyntaf: Blwyddyn Academaidd 2015/16. Mae'r adroddiad hwn yn dangos y pethau gwych a gyflawnwyd gan yr holl athrawon, gweithwyr proffesiynol creadigol, a dysgwyr sydd wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau amrywiol ac arloesol a gynhaliwyd o dan y cynllun yn ystod ei flwyddyn gyntaf.

Mae'r adroddiad yn dangos bod y rhaglen hon, sydd gwerth £20 miliwn, ac sy'n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru, eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar ysgolion ar hyd a lled Cymru.  Mae gan y cynllun ddau faes gwaith, sef Ysgolion Creadigol Arweiniol, a Chynnig y Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan.

Mae cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol yn parhau i gefnogi ysgolion drwy roi iddynt fwy o gyfleoedd i ddatblygu dulliau dysgu ac addysgu creadigol a rhannu arferion gorau sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflwyno diben ‘Cyfranwyr, Mentrus a Chreadigol' y cwricwlwm newydd, yn ogystal â Maes Dysgu a Phrofiad y Celfyddydau Mynegiannol. Yn ystod oes cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol, ein nod yw cael traean o'r ysgolion yng Nghymru i gymryd rhan yn y cynllun.

Mae cynllun Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau hefyd yn helpu'r gweithlu addysg yng Nghymru i baratoi ar gyfer cyflwyno dulliau newydd a chreadigol o ddysgu o dan y cwricwlwm newydd.  Mae'r cynllun yn cefnogi hynny drwy roi ymarferwyr creadigol mewn ysgolion i weithio ochr yn ochr ag athrawon i ddatblygu arferion newydd y gellir eu rhannu ar draws y sector.

Edrychaf ymlaen at weld yr arferion cyffrous a'r profiadau diwylliannol ysbrydoledig y bydd cynllun Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau yn eu darparu dros y blynyddoedd nesaf. Ac rwy'n gobeithio y bydd ysgolion ledled Cymru yn parhau i fanteisio ar y cyfleoedd gwych sydd ar gael iddynt drwy'r cynllun.