Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Mae ein hymrwymiadau ni i sefydlu dull newydd a chydlynol o reoli ein hadnoddau naturiol yn elfen allweddol o’r Rhaglen Lywodraethu. Ein bwriad yw helpu i wireddu ein hamcanion amgylcheddol a hefyd, yn hollbwysig, ein hamcanion cymdeithasol ac economaidd, yn enwedig drwy dwf gwyrdd a’n gwaith ni i drechu tlodi o bob math.
Yr hydref diwethaf, fe gyhoeddais Bapur Gwyn, Tuag at Reoli Adnoddau Naturiol Cymru yn Gynaliadwy, yn nodi fy nghynigion ar gyfer Bil yr Amgylchedd. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad yn rhoi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwnnw. Cyhoeddir yr adroddiad ar dudalen Ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen heddiw, ochr yn ochr â’r ymatebion.
Cyflwynwyd 182 ymateb ysgrifenedig i’r ymgynghoriad, sy’n rhagorol. Roedd llawer o’r ymatebion yn cynnwys sylwadau manwl a chraff – arwydd clir o ba mor bwysig yw ein hadnoddau naturiol i bobl Cymru. Bydd y sylwadau hyn yn helpu i lywio datblygiad pellach y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno.
Ar y cyfan, roedd yr ymgynghoriad yn ategu’r dull gweithredu a gynigion ni ar gyfer deddfu i reoli adnoddau naturiol Cymru. Cafwyd cefnogaeth gref i’r pecyn o gynigion ar gyfer sefydlu fframwaith integredig i reoli adnoddau naturiol ac i roi’r arfau cywir i Cyfoeth Naturiol Cymru weithio mewn ffyrdd newydd ac arloesol i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Roedd yr ymatebion yn cadarnhau hefyd bod angen i’r ddeddfwriaeth a gyflwynwn, ym maes rheoli gwastraff er enghraifft, fod yn ymarferol a chymesur ac y dylent esgor ar y cyfleoedd gorau posibl ar gyfer creu swyddi a thwf.
Mae’r ymgynghoriad pellach hwn yn ychwanegu at yr ymatebion a gafwyd i’r Papur Gwyrdd, Cynnal Cymru Fyw yn 2012. Y Papur Gwyrdd hwnnw oedd y sail ar gyfer datblygu cynigion y Papur Gwyn, sydd wedi atgyfnerthu’r cyfeiriad a gymerwn. Byddwn yn defnyddio’r naill ymgynghoriad a’r llall i ddatblygu’r polisïau a chanllawiau ategol hefyd, ac mae fy swyddogion yn dal i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod Bil yr Amgylchedd a’n polisïau ehangach yn cyflawni dros Gymru, yn awr ac yn yr hirdymor. I gefnogi hyn oll bydd gennym fesurau ymarferol megis y Gronfa Natur a fydd yn cyfrannu at y newid pellgyrhaeddol sydd ei angen i wreiddio’r dull cydlynol newydd o reoli ein hadnoddau naturiol er budd yr economi, cymdeithas a’r amgylchedd.
Edrychaf ymlaen yn awr at ddatblygu cynigion y Papur Gwyn yn ddeddfwriaeth ddrafft a gyflwynir maes o law i’r Cynulliad Cenedlaethol.