Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrch Cronfa Twf Economaidd Cymru 2013/14 ac am yr allbynnau terfynol ar gyfer Cronfa Twf Economaidd Cymru 2012.

Mae pob prosiect o dan Gronfa 2012 (WEGF 1) wedi’u cwblhau bellach, a thalwyd cyfanswm o £21.2 miliwn i 109 o fusnesau, gan greu 993 o swyddi a diogelu 1,273.

Mae nifer o’r prosiectau o dan Gronfa 2013/14 (WEGF 2) yn dal i fynd rhagddynt. Hyd yma, talwyd bron £19 miliwn i gyd i 174 o brosiectau. Mae’r prosiectau hynny wedi creu 1,487 o swyddi yn uniongyrchol ac wedi  diogelu 1,963.

Hefyd, ar ôl y cyhoeddiad ynghylch cau Murco ddiwedd y llynedd, cynigiwyd cylch cyllido arall yn ardal Sir Benfro o dan y Gronfa Twf Economaidd. Cafodd 19 o gynigion o gymorth eu derbyn gan fusnesau yn yr ardal. Disgwylir i’r prosiectau hynny ddwyn ffrwyth ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.

Wrth inni ddisgwyl am y setliadau cyllid o dan yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant, mae’n rhy gynnar imi fedru dweud wrthych a fydd rhagor o gylchoedd cyllido’n cael eu cynnig o dan Gronfa Twf Economaidd Cymru. Bydd cyllid yn parhau i fod ar gael o dan ein Cynllun Cyllid Busnes Ad-daladwy er mwyn helpu busnesau gyda phrosiectau creu swyddi.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru, drwy Cyllid Cymru, yn darparu cyllid ar gyfer prosiectau creu swyddi, gan wneud hynny drwy gronfeydd penodol megis Cronfa Fuddsoddi BBaChau Cymru, y Gronfa Benthyciadau i Ficrofusnesau a’r Gronfa Buddsoddi Cyfalaf ar gyfer BBaChau.