Neidio i'r prif gynnwy

Cwnsler Cyffredinol Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae Bil Deddfwriaeth (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol sydd ynghlwm wrtho wedi'u gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

Diben y Bil yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio. Mae'n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru'n cytuno â barn Comisiwn y Gyfraith na ellir gwneud ein llyfr statud yn fwy hygyrch ond trwy ymrwymiad hirdymor a pharhaus i ddatrys y broblem. Mae Rhan 1 o'r Bil yn cynnig y bydd rhaglen weithgarwch ar gyfer pob tymor Cynulliad. Er mai mater i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ar y pryd fydd cynnwys penodol y rhaglenni, rhaid i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cadw cyfraith sydd wedi'i chodeiddio a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Rydym wedi bod yn ystyried strwythur posibl ar gyfer y gyfraith wedi'i chodeiddio, a heddiw rwyf yn trefnu bod Tacsonomeg Ddrafft ar gyfer Codau Cyfraith Cymru (teitl cwrteisi) ar gael i'r Aelodau. Er mai dogfen weithio yw hon o hyd, rwyf yn gobeithio y bydd yn taflu goleuni defnyddiol ar ein syniadau cychwynnol.

Mae Rhan 2 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gweithredu a dehongli deddfwriaeth Cymru, gan ddatblygu i Gymru nodwedd ar lyfrau statud ar draws byd y gyfraith gyffredin, gan gynnwys yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bwriedir iddi fodoli ochr yn ochr â Deddf Dehongli'r DU 1978 a fydd yn parhau i fod yn gymwys i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes ac i ddeddfwriaeth nad yw o fewn cymhwysedd datganoledig.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar am y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol yfory. Mae copi o'r Bil a'i ddogfennau ategol ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol.