Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau sy’n cael eu cymryd i leihau marwolaethau yn sgil damweiniau beiciau modur yng Nghymru.
Rwy’n pryderu am y marwolaethau sydd wedi digwydd hyd yma eleni, yn enwedig ymhlith gyrwyr beiciau modur. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn hon, collodd 25 o yrwyr beiciau modur eu bywydau ar ffyrdd Cymru: 12 ar y rhwydwaith cefnffyrdd, a 13 ar ffyrdd eraill. Gellid osgoi'r marwolaeth hyn a’u goblygiadau trasig i’r teuluoedd a’r ffrindiau. Hefyd, mae effaith fawr ar eraill sy'n rhan o'r damweiniau a'r rheini sy'n gweithio i'r gwasanaethau brys ac yn ymateb iddynt.
Rydw i wedi trafod y mater hwn gyda phedwar Prif Gwnstabl yr Heddlu yng Nghymru ac rwyf ar ddeall nad oes patrwm penodol i'r digwyddiadau trasig hyn. Fodd bynnag, mae'r heddlu yn parhau i gadw llygad barcud ac yn mynd i weithio gyda'r holl awdurdodau priffyrdd ledled Cymru i graffu ar y data. Drwy hyn, bydd modd gweld sut y gellir targedu'r ymyriadau yn fwy effeithiol.
Cyfarfu Grŵp Strategol Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan ar 22 Hydref. Ystyriwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar anafiadau y beicwyr modur er mwyn helpu i gynllunio’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol i dargedu ymyriadau.
Mae'n hanfodol bod yr holl bartneriaid yn parhau i gydweithio ac rwy'n hyrwyddo hyn drwy sefydlu Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd. Mae'r fframwaith yn cydnabod bod beicwyr modur yn agored i niwed ac mae'n nodi'r camau y mae'r partneriaid a minnau wedi cytuno arnynt. Rydw i'n rhoi cyllid ar gyfer nifer o raglenni sydd â’r nod o hyrwyddo diogelwch gyrwyr beiciau modur, megis BikeSafe and DragonRider, ac rydw i wedi comisiynu gwerthusiad o’r hyfforddiant a roddir i feicwyr modur, i weld os oes ffyrdd y gellid gwella'r rhaglenni hyn a'u gwneud yn fwy effeithiol. Rydw i'n awyddus i edrych i weld os yw'n bosibl gwella'r ffordd o adnabod a thargedu gyrwyr sydd fwyaf tebygol o gael gwrthdrawiadau.