Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wyf heddiw wedi llofnodi Cynllun Morol Cenedlaethol drafft Cymru ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i gael ei gytundeb i lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun. Mae hyn yn ofyn o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 gan fod y cynllun yn ymdrin â swyddogaethau sydd wedi'u cadw.

Hwn fydd Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ac mae'n ymdrin â'n polisïau dros yr 20 mlynedd nesaf ar gyfer datblygu ardal gynllunio forol Cymru, y glannau a'r môr mawr, mewn ffordd gynaliadwy. Mae'n disgrifio'n cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer defnyddio'r moroedd a sut y gall defnyddwyr gwahanol y môr weithio gyda'i gilydd, gan sicrhau ein bod yn defnyddio'n hadnoddau mewn ffordd gynaliadwy ac yn cefnogi'r cyfleoedd 'twf glas' niferus.

Bydd yr ymgynghoriad yma yn gyfle i bobl Cymru gyfrannu at y cynllun.