Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y camau y mae'n eu cymryd i ddelio â gwaith diffygiol sydd wedi’i wneud gan gwmnïau inswleiddio waliau solet. Mae hyn yn ymwneud â dwy raglen a etifeddwyd gan Lywodraeth newydd y DU, cynllun Rhwymedigaethau Cwmnïau Ynni 4 (ECO4) a'r Great British Insulation Scheme (GBIS), sydd ar waith ym mhob rhan o Brydain Fawr.
Hoffwn ddiolch i Weinidog Defnyddwyr Ynni y DU am gysylltu â mi am y mater hwn a gweithredu ar fyrder i atal gosodwyr a diogelu defnyddwyr. Cefais gyfarfod â'r Gweinidog ar 22 Ionawr, a thrafodon ni'r broses y mae'n ei harwain i gywiro'r problemau y mae Trustmark wedi'u darganfod. Mae Llywodraeth y DU wedi addo i mi y bydd unrhyw waith i gywiro diffygion yn cael ei wneud yn gyflym ac yn effeithiol, gyda'r gosodwyr yn talu amdano. Bydd fy swyddogion yn cael gwybodaeth yn rheolaidd gan eu cydweithwyr yn Llywodraeth y DU a byddaf yn cael gwybod sut mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen.
Mae'r cynlluniau hyn ar wahân i Gynllun Cartrefi Cynnes Nyth Llywodraeth Cymru. Mae Nyth yn cynnwys gwasanaeth gwarantu ansawdd annibynnol. Mae arbenigwyr yn archwilio ansawdd dyluniadau ac yn ymweld â gosodwyr i archwilio eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys archwilio prosiectau inswleiddio waliau allanol a mewnol. Mae unrhyw ddiffygion a welir yn cael eu cywiro ar unwaith, cyn i'r gosodwr gael ei dalu am y gwaith. O ran ôl-osod tai cymdeithasol, mae personél arbenigol a phrosesau trylwyr ein sefydliadau partner yn lleihau'n sylweddol y risg y bydd gwaith contractwyr yn ddiffygiol.
I gloi, rwy'n gwybod y bydd y newyddion hyn yn poeni aelwydydd yng Nghymru sydd wedi cael eu walydd wedi'u hinsiwleiddio o dan gynlluniau ECO4 neu GBIS. Ar ôl trafod gyda Gweinidog y DU, mae gen i ffydd yn y camau sy'n cael eu cymryd i unioni pethau. Bydd Ofgem yn anfon llythyr at yr aelwydydd dan sylw, a fydd yn esbonio beth sy'n cael ei wneud i ddatrys y broblem.