Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod ysgolion arbennig preswyl yng Nghymru wedi cael eu diffinio fel gwasanaeth rheoleiddiedig newydd - 'gwasanaethau preswyl ysgolion arbennig' - o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Wrth wneud hynny, rydym yn ymateb i'r argymhelliad a wnaed gan yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol y dylai pob ysgol arbennig breswyl gael ei harolygu yn erbyn y safonau ansawdd a ddefnyddir i reoleiddio cartrefi gofal yng Nghymru.
Mae pedair ysgol arbennig breswyl a gynhelir yng Nghymru a fydd yn dod o fewn y cwmpas rheoleiddio. Mae'r ysgolion hyn yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i blant a phobl ifanc sy'n mynychu'r ysgolion, a'u teuluoedd. Bydd y rheoliadau newydd yn galluogi gwasanaethau preswyl yr ysgolion arbennig presennol a rhai’r dyfodol i gofrestru gyda'r rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal Cymru, a thrwy eu rheoleiddio fel hyn gellir gweithredu dull goruchwylio mwy cyson ar gyfer gwasanaethau sy'n gofalu am blant agored i niwed.
Mae fy swyddogion wedi gweithio'n agos gyda grŵp o randdeiliaid, gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, awdurdodau lleol, a chynrychiolwyr o'r ysgolion arbennig preswyl presennol. Mae eu cyfraniad wedi bod o gymorth mawr wrth ddatblygu rheoliadau sy'n gymesur, yn berthnasol ac yn addas ar gyfer eu diben.
Rwy'n bwriadu cwblhau'r fframwaith rheoleiddio yn ystod y mis nesaf drwy gyflwyno rheoliadau a fydd yn gosod gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau ac unigolion cyfrifol o ran ansawdd a diogelwch y gwasanaethau y maent yn eu darparu. Byddaf hefyd yn cyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r rheoliadau.
Mae'r holl reoliadau wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwyf wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw.