Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu hyd at 140 o leoedd i fyfyrwyr meddygol bob blwyddyn yn Ysgol Feddygol newydd y Gogledd. Bydd y myfyrwyr cyntaf yn cael eu derbyn yn 2024.
Rydym yn disgwyl i nifer y myfyrwyr gynyddu'n raddol, gan gyrraedd y nifer uchaf posibl o 2029 ymlaen. Bydd y cynnydd graddol hwn yn rhoi amser i asesu a gwerthuso ansawdd yr hyfforddiant a phrofiad y myfyrwyr yn yr ysgol feddygol newydd.
Mae sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn ymrwymiad allweddol a fydd yn helpu Cymru i hyfforddi mwy o fyfyrwyr meddygol ac i sicrhau bod y cyfleoedd hyfforddi a’r ddarpariaeth o feddygon cymwysedig yn cael eu gwasgaru ledled Cymru.
Mae hyn yn hwb gwirioneddol i’r Gogledd, i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac i Brifysgol Bangor.
Rwyf wedi ysgrifennu i’r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn cadarnhau ein bod yn cefnogi ac yn cymeradwyo’r cynlluniau hyn. Mae'r llythyr sicrwydd hwn yn galluogi'r Cyngor i fwrw ymlaen ȃ’r broses achredu.