Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma roi gwybod i’r aelodau y bydd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn agor yn swyddogol ganol mis Tachwedd eleni yn hytrach na’r dyddiad a fwriadwyd yn wreiddiol, ym mis Mawrth 2021. 

Bydd y cyfleuster newydd yng Nghwmbrân, sydd wedi derbyn dros £360m o gyllid gan Lywodraeth Cymru, yn darparu gofal mewn argyfwng a gofal brys. Bydd yn dod â gwasanaethau at ei gilydd a oedd yn arfer cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni. Cafodd rhannau o’r ysbyty eu cynnig i’r GIG yn gynnar fel ysbyty maes i gynorthwyo gyda phandemig y coronafeirws.

Mae’r ysbyty wedi’i leoli ar safle 60 erw a bydd yn cynnwys 471 o welyau. Bydd ganddo hefyd gyfleuster asesu arbenigol 24 awr, cyfleusterau gofal dwys, cyfleusterau diagnostig cynhwysfawr, gwelyau cleifion mewnol ar gyfer argyfyngau mawr a llawdriniaethau cymhleth, a theatrau.

Bydd rhestr gyfunol o wasanaethau yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Gwent ac Ysbyty Nevill Hall gyda gofal i gleifion mewnol ac allanol gan gynnwys profion diagnostig, therapïau, triniaeth ar gyfer mân anafiadau a gwasanaethau geni dan arweiniad bydwragedd. Y nod yw y bydd y rhain yn ymuno ag Ysbyty Ystrad Fawr, Ysbyty Aneurin Bevan, Ysbyty Cas-gwent a’r Ysbyty Sirol i ddarparu rhwydwaith o ysbytai a all ddarparu’r rhan fwyaf o ofal i’w cymunedau lleol.

Yn ogystal â’r ysbyty ei hun a fydd yn darparu cyfleusterau o’r radd flaenaf, mae wedi helpu i greu dros 600 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu. Bydd yr ysbyty yn cyflogi dros 3,000 o bobl pan fydd yn agor, gydag oddeutu 600 yn gweithio ar unrhyw adeg benodol.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fodlon gwneud hynny.