Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig i ymchwilio i'r sgandal gwaed, cynhyrchion gwaed a meinweoedd heintiedig a gyflenwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y 1970au a'r 1980au a'u defnyddio'n rhan o driniaethau'r GIG ledled y DU yn ystod y cyfnod hwnnw. Yn anffodus, cafodd miloedd o bobl eu heintio â Hepatitis C a HIV o ganlyniad. Bu farw llawer o bobl ac mae eraill wedi dioddef salwch drwy gydol eu hoes.

Dechreuodd Syr Brian Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad, gymryd tystiolaeth yn 2019 a, heddiw, mae wedi cyhoeddi ei adroddiad terfynol a'i argymhellion (dolen allanol, Saesneg yn unig) ynglŷn â'r drasiedi hon. 

Dyma'r sgandal gwaethaf o ran triniaethau gan y GIG. Er iddo ddigwydd cyn datganoli, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, hoffwn ymddiheuro i bawb a gafodd eu heintio ac sydd wedi dioddef yn sgil y methiant ofnadwy hwn.

Hoffwn ddiolch i Syr Brian am ei amser a'r agwedd dosturiol a ddangosodd yn ystod yr ymchwiliad. Hoffwn hefyd nodi fy edmygedd o'r cryfder a ddangoswyd gan bawb a roddodd dystiolaeth am eu profiadau personol a'u teuluoedd. Bu llawer ohonynt yn ymgyrchu am ddegawdau am ymchwiliad cyhoeddus. 

Mae'n briodol bod eu lleisiau wedi cael eu clywed ac rwy'n gobeithio bod goroeswyr a'u teuluoedd yn teimlo bod yr ymchwiliad wedi ystyried eu tystiolaeth ac wedi rhoi atebion i'w cwestiynau a'u pryderon.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru fynediad at ein cofnodion ar gyfer yr ymchwiliad a darparodd swyddogion a Gweinidogion presennol a blaenorol dystiolaeth ysgrifenedig a llafar yn ôl yr angen. 

Heddiw, rydym yn cael copi o adroddiad ac argymhellion Syr Brian, a byddwn yn eu hystyried yn ofalus ac yn fanwl. Rydym wedi ymrwymo o hyd i weithio ar sail pedair gwlad i ymateb i argymhellion yr ymchwiliad. Ein nod fydd sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i fuddiolwyr a'u teuluoedd yng Nghymru.

Cadarnhaodd y ddadl yn y Senedd ar 7 Mai ein safbwynt o ran cynnig Llywodraeth y DU i sefydlu corff hyd braich ar gyfer talu iawndal. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiolwyr o Gymru a'u teuluoedd yn cael eu digolledu yn unol ag adroddiad interim yr ymchwiliad ar iawndal. 

Mae ein Cynllun Cymorth Gwaed Heintiedig Cymru yn parhau i roi cymorth i fuddiolwyr hysbys a'u teuluoedd. Ar gyfer pobl sy'n credu eu bod efallai wedi cael eu heintio cyn 1992, rydym wedi gweithio gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru i helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd ganddynt. Gallant hefyd gael pecyn profi gartref o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Byddaf yn darparu diweddariadau pellach i'r Senedd unwaith y byddwn wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr ymchwiliad.