Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn siomedig iawn o glywed cyhoeddiad Ford UK yr wythnos ddiwethaf ei fod yn dechrau ar ymgynghoriad i gau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Medi 2020.

Mae'r newyddion am gau y ffatri yn newyddion trychinebus i'r gweithlu a'u teuluoedd, ac i'r gadwyn gyflenwi ehangach, tref Pen-y-bont ar Ogwr a’r ardaloedd cyfagos.

Fel pob cwmni arall sy'n gwneud cerbydau, mae Ford yn wynebu heriau byd-eang enfawr o ran y newid yn yr hinsawdd ac o ran technolegau amgen newydd. Mae gan Ford asedau hynod werthfawr, o ran eu gweithlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn y ffatri ym Mhen-y-bont, ac rwy'n galw arnynt unwaith eto i ystyried eu penderfyniad.

Yn y cyfamser mae'n rhaid inni wneud bopeth o fewn ein gallu i baratoi ar gyfer pob sefyllfa.  Yr wythnos ddiwethaf cyhoeddais y byddai Llywodraeth Cymru yn sefydlu tasglu i weithio gyda partneriaid lleol i  helpu i ddod o hyd i ateb cynaliadwy, hirdymor i'r safle, ei gweithlu a'r gymuned yn ehangach. Heddiw rwy'n gallu rhoi mwy o wybodaeth i'r aelodau ar yr hyn fydd y tasglu hwnnw yn canolbwyntio arno a'n camau nesaf arfaethedig.

Byddaf yn gofyn i'r tasglu ganolbwyntio ar oddeutu tair thema:

  • Pobl: canolbwyntio ar y bobl sy'n gweithio yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr ac yn y cadwyni cyflenwi i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth drwy gydol yr ymgynghoriad ac yn y dyfodol
  • Potensial: canolbwyntio ar botensial hirdymor y safle a denu buddsoddiad newydd i sicrhau bod y safle a sgiliau'r gweithwyr yn cael eu defnyddio
  • Lle: canolbwyntio ar yr effaith ehangach ar y gymuned a sicrhau dyfodol cadarn i'r ardal leol a'r rhanbarth yn ehangach

Mae’r pwyslais ar ‘le’ yn cynrychioli elfen ychwanegol ac allweddol o’i gymharu â Thasgluoedd blaenorol sydd wedi’u sefydlu yn dilyn cyhoeddiadau o’r fath. Rwyf wedi gofyn i’r aelod lleol dros Ben-y-bont ar Ogwr a’r cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones AC, oruchwylio’r gwaith hwn er mwyn paratoi Pen-y-bont ar Ogwr a’r gymuned ehangach ar gyfer bywyd ar ôl mis Medi 2020.

Rwyf hefyd wedi trafod â'm prif bartneriaid am aelodau a chylch gwaith y tasglu, fydd yn cael ei drefnu yn fuan iawn. Bydd dan gadeiryddiaeth ffigwr amlwg o'r sector moduro, wedi'i noddi ar y cyd gennyf i ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan gynnwys cynrychiolaeth o Lywodraeth Cymru, Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, BEIS, Undebau Llafur, awdurdodau lleol, ac eraill. Yn amlwg mae cydweithredu agored a rheolaidd â Ford ar bob lefel yn gwbl allweddol i’r broses hon.

Rwyf am i'r tasglu gydweithio'n agos â chwmnïau'r cadwyni cyflenwi yn yr ardal i gynllunio'r gweithgarwch sydd ar y gweill ac i gefnogi ymyraethau fydd yn helpu cwmnïau sy'n dibynnu ar Ford am eu busnes i oroesi wedi'r sefyllfa argyfyngus hon.

Yn amlwg, bydd swyddogaeth Ford yn y gwaith hwn yn hollbwysig. Byddaf yn cysylltu â'r cwmni yn ystod y dyddiau nesaf, a hefyd Lywodraeth y DU, i roi amlinelliad o'n disgwyliadau, o ran sut y bydd yn rhaid i Ford gefnogi'r gymuned y mae wedi bod yn rhan allweddol ohoni am y pedwar degawd diwethaf. Bydd yn amlwg yn hanfodol ein bod yn cydweithio â'r cwmni i sicrhau gwaddol sylweddol i'r gymuned gyfan a'r gadwyn gyflenwi, ac nid yn unig y rhai oedd wedi'u cyflogi'n uniongyrchol ar y safle. Dylai’r gwaddol yma adlewyrchu cyfraniad enfawr gweithwyr, y gymuned a’r trethdalwyr dros flynyddoedd lawer.

Mae'n rhaid i'r effaith y mae'r cyhoeddiad wedi'i chael, ac a fydd yn parhau i'w chael, ar y bobl sy'n byw ac yn gweithio ym Mhen-y-bont fod yn flaenllaw yn ein hymdrechion. Rwy'n benderfynol i sicrhau bod pawb yn cydweithio er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r ardal. Y tasglu fydd canolbwynt yr ymdrechion hyn, a byddaf yn rhoi mwy o fanylion yn fuan am ei aelodaeth a'i gylch gorchwyl.