Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ar y Cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngres Undebau Llafur Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r pandemig coronafeirws wedi newid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio yng Nghymru. Gyda’n gilydd, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i gefnogi’r mesurau a gyflwynwyd i ddiogelu’r GIG ac achub bywydau.

Ni welwyd effaith debyg ar fusnesau, gweithleoedd a gweithwyr erioed o’r blaen, ond bydd ein strwythurau partneriaeth gymdeithasol sefydledig – y cydweithio rhwng y Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau – yn helpu i leddfu’r effaith economaidd wrth hefyd gefnogi busnesau a gweithwyr.

Gwerthoedd Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

Mae’r cyfnod digynsail hwn yn ei gwneud yn gwbl amlwg pa mor ddibynnol ydym ni i gyd ar ein gilydd. Mae ein bywydau wedi’u plethu â’i gilydd ac mae anghenion pob un ohonom yn cael eu diwallu gan sgiliau ac ymdrechion llawer o bobl eraill. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’n gwerthoedd partneriaeth gymdeithasol.

Y flaenoriaeth inni i gyd yw diogelu iechyd a lles pobl a chymunedau, gan sicrhau bod cyflogwyr a gweithwyr yn chwarae eu rhan mewn ymdrech genedlaethol i arafu lledaeniad y feirws.

Rydym yn cydnabod y rôl werthfawr y mae cyflogwyr yn ei chwarae i fod yn gefn i’w gweithwyr a’u cadw’n ddiogel. Mae’n bwysig nad yw eu hymdrechion yn cael eu tanseilio gan y rhai sydd efallai’n gweld cyfle i fanteisio ar yr argyfwng presennol er mwyn anwybyddu eu rhwymedigaethau. Byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur, Llywodraeth y DU ac eraill i helpu i atal, canfod ac unioni arferion gwael ble bynnag maent yn digwydd. 

Cymorth a chyngor

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r argyfwng drwy gyflwyno pecyn cymorth helaeth i fusnesau, unigolion a’n gwasanaethau cyhoeddus, sy’n ategu mesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd y cymorth hwn yn helpu cyflogwyr i ddiogelu eu busnesau, cynnal swyddi a thalu eu gweithwyr yn ystod y sefyllfa sydd ohoni.

Mae gwybodaeth ynglŷn â’r cymorth ar gael yn busnescymru.llyw.cymru.

Gan fod addysg ffurfiol wedi’i hatal am y tro ac ysgolion a chanolfannau gofal plant eraill wedi’u cau i arafu lledaeniad y feirws, rydym am sicrhau bod gan weithwyr hanfodol y cymorth gofal plant i’w galluogi i barhau i weithio. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://llyw.cymru/addysg-coronafeirws.

Ein disgwyliadau

Rydym yn gofyn i gyflogwyr, undebau a gweithwyr gytuno ar drefniadau priodol i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu trin yn deg. Mae hyn yn golygu:

  • Sicrhau bod yr holl weithwyr yn dilyn y cyngor ar ddiogelu iechyd gan gynnwys ynysu eu hunain neu eu cartrefi, os oes ganddynt symptomau neu os ydynt yn agored i niwed

Caiff y cyngor ar ddiogelu iechyd ei ddiweddaru’n rheolaidd. Ni ddylai neb deimlo o dan bwysau i fynd yn groes i’r cyngor hwnnw ac ni ddylid peryglu gweithwyr yn ddiangen. Hefyd, ni ddylai gweithwyr roi eraill mewn perygl o gael eu heintio.

  • Talu gweithwyr tra maent yn sâl neu’n hunanynysu

Ni ddylai’r un gweithiwr gael ei gosbi’n ariannol gan ei gyflogwr am ddilyn cyngor meddygol. Ni ddylai absenoldeb o’r gwaith yn sgil y coronafeirws effeithio ar yr hawl i dâl salwch yn y dyfodol, arwain at gamau disgyblu na chyfrif tuag at unrhyw gamau yn y dyfodol sy’n ymwneud ag absenoldeb oherwydd salwch.

  • Cefnogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu

Dylai cyflogwyr ystyried trefniadau dros dro ar gyfer absenoldeb â thâl ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, a hynny ar ben trefniadau absenoldeb presennol. 

  • Hwyluso gweithio gartref

Dylid gallu gweithio gartref ble bynnag y bod modd, a hynny ddylai fod y norm. Dylai cyflogwyr fod mor gefnogol a hyblyg ag y gallant, o gofio’r pwysau aruthrol a fydd ar rai gweithwyr. Mae angen i’r rheolau fod yn hyblyg i alluogi’r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu i barhau i weithio.

  • Diogelu iechyd a diogelwch pob gweithiwr, ond yn enwedig gweithwyr y rheng flaen neu weithwyr hanfodol sy’n wynebu peryglon penodol, gan ddilyn canllawiau Prif Swyddog Meddygol Cymru 

Dylid darparu cyfarpar diogelu personol priodol, yn unol â’r canllawiau perthnasol ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol. Dylid sefydlu trefniadau iechyd a diogelwch arbennig i sicrhau gweithleoedd diogel, a dylid parhau i asesu risg arferion gweithio wrth i’r sefyllfa barhau i newid yn gyflym.

  • Sicrhau bod pob gweithiwr yn cael gwybodaeth glir a chynhwysfawr ynglŷn â risgiau cysylltiedig â gwaith, a hynny’n barhaus

Dylai’r holl weithwyr fod yn ymwybodol o ganllawiau a gweithdrefnau’r gweithle mewn perthynas â’r coronafeirws, a dylai’r canllawiau a’r gweithdrefnau hyn fod ar gael iddynt. Dylai’r rhain gynnwys sut i ddelio â hunanynysu ac absenoldeb oherwydd salwch. Mae angen i weithwyr wybod yn glir ac yn syml beth yw eu cyfrifoldebau a hefyd beth yw disgwyliadau teg eu cyflogwr ohonynt.

  • Diogelu gweithwyr dan gontract yn ogystal â staff craidd

Dylid trin gweithwyr asiantaeth dros dro a chontractwyr hunangyflogedig fel pe baent yn gyflogeion yn ystod y cyfnod hwn.

Yn y bôn, dylai cyflogwyr geisio cynnal swyddi a thalu eu gweithwyr drwy gydol yr argyfwng, gan fanteisio’n llawn ar yr holl gymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth.

Fel cyflogwr, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny ac yn ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cymdeithasol yn ystod yr argyfwng hwn mewn modd adeiladol. Dyma hefyd ein disgwyliadau o ran yr hyn y dylai cyflogwyr ledled Cymru ei wneud.

Bydd yr ymdrech genedlaethol i oresgyn yr argyfwng iechyd hwn yn gofyn am ymateb economaidd digynsail, wedi’i rannu rhwng pawb ar y cyd, yn synhwyrol ac yn bwrpasol. Yn fwy na dim, bydd gofyn inni weithio mewn partneriaeth gymdeithasol – gyda chyflogwyr ac undebau llafur, gan dynnu ar draddodiadau cadarn Cymru o ran cydgefnogaeth, cymuned a chydweithredu.