Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynullodd y Prif Weinidog Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid Hinkley Point C ym mis Gorffennaf 2020 i ddarparu asesiad annibynnol o oblygiadau'r orsaf bŵer niwclear newydd sy'n cael ei datblygu ar hyn o bryd yn Hinkley Point, yng Ngwlad yr Haf. Adroddodd y Grŵp ar ei waith ym mis Mawrth 2021 ac rwyf wedi bod yn ystyried ei ganfyddiadau.

Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd diolch y Prif Weinidog i Jane Davidson am gadeirio'r Grŵp, ac i aelodau'r Grŵp am roi o'u hamser a'u harbenigedd.

Credaf ein bod i gyd yn cydnabod y manteision a'r syniadau a ddarperir gan y Grŵp annibynnol hwn. O ystyried profiad a dealltwriaeth eang yr aelodau o'r materion cymhleth dan sylw, rwyf wedi gofyn i'r Grŵp barhau i ddarparu cyngor strategol, annibynnol i Lywodraeth Cymru, lle y bo'n briodol, gan wneud hynny fesul achos.

Fel y nododd y Prif Weinidog ar y pryd, mae'r Grŵp wedi cyflwyno adroddiad eang sy'n rhoi ffynhonnell werthfawr o dystiolaeth a chyngor i ni.

Ar ôl ystyried y canfyddiadau, rwy'n cydnabod y trefniadau llywodraethu cymhleth, a heriol ar adegau, sydd ar waith ar yr arfordir, yn enwedig mewn ardaloedd trawsffiniol lle rydym yn rhannu adnoddau naturiol a'r cyfrifoldeb am eu rheoli gyda'n cymdogion. Mae mwy y gallwn ei wneud i uno gyda'n gilydd ac i sicrhau bod y trefniadau presennol yn eglur.

Rwyf wedi gofyn i swyddogion sicrhau bod ein cyfrifoldebau dros gynllunio morol yn cael eu cyflawni mewn modd cydgysylltiedig ochr yn ochr â rhai'r Sefydliad Rheoli Morol (MMO). At hynny, bwriadaf gyhoeddi trosolwg o drefniadau llywodraethu sectorau morol Cymru ac rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio ar y cyd â'r MMO i adolygu polisi cynllunio ac i egluro trefniadau cynllunio a thrwyddedu ar gyfer Aber Afon Hafren. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod trefniadau clir ar waith ar gyfer cydweithredu trawsffiniol a bod gwybodaeth am y trefniadau hyn ar gael yn eang.

Mae ein huchelgeisiau ar gyfer ecosystemau morol cydnerth a rheoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy yn glir. Byddaf yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn cymeradwyo canfyddiadau'r Grŵp iddynt ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ystyried datblygiadau seilwaith mawr mewn meysydd trawsffiniol o safbwynt deddfwriaeth ddatganoledig a dulliau polisi, gan gynnwys y rhai a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Er ei bod yn bwysig inni osod ein hagenda a'n cyfeiriad polisi ein hunain, gwelaf werth mewn dulliau cydgysylltiedig o ymdrin â phroblemau cymhleth. Rwyf am sicrhau bod ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli'n dda a'n bod yn manteisio ar bob cyfle i wella'r ecosystem forol ehangach. Ar yr un pryd, mae'r rheidrwydd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio ein heconomi, gan gynnwys drwy harneisio ynni o'n moroedd, yn cynyddu bob dydd. Mae adroddiad diweddar y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) yn nodi rhybudd clir y mae'n rhaid i bob un ohonom ei ystyried a gweithredu arno.

Mewn ymateb i'r ddwy her hyn, bydd fy swyddogion yn adolygu'r dulliau polisi sy'n datblygu yn Lloegr i gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy morol ochr yn ochr â sicrhau manteision i ecosystemau.

Mae adroddiad y Grŵp hefyd yn ein hatgoffa o'r angen am ddull rheoleiddio sy'n glir ac yn gywir. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod y broses trwyddedu morol yn parhau i gael ei chyflwyno i'r safon uchel bresennol ac yn rhoi eglurder ar rolau a chyfrifoldebau, fel ei bod yn glir i bawb fod rheolaethau ar waith i sicrhau bod dyletswyddau'n cael eu gwahanu rhwng y rheoleiddiwr a'i gynghorwyr.

Yn olaf, byddwn yn sicrhau bod unrhyw fodelu a wneir, fel rhan o'r broses drwyddedu mewn perthynas â gwaredu gwaddodion yn y môr, yn defnyddio'r dystiolaeth a'r tybiaethau mwyaf priodol. Bydd yr holl fodelu a wneir i lywio penderfyniadau gwaredu morol ar gael yn eang cyn gwneud unrhyw benderfyniad.

Unwaith eto, diolchaf i'r Grŵp am ei waith ac edrychaf ymlaen at drafod gyda hwy yn y dyfodol wrth i ni weithio i gyflawni'r blaenoriaethau a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.