Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol
Ar 17 Hydref 2017, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ei adroddiad ar arolygiad wedi ei gynllunio o Wasanaethau Cymdeithasol Plant Cyngor Sir Powys, a gafodd ei gynnal ym mis Gorffennaf 2017. Yn ystod yr arolygiad hwn, nodwyd nifer sylweddol o bryderon difrifol ac amrywiaeth eang o ddiffygion.
Yr un diwrnod, cyflwynodd cyn Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Hysbysiad Rhybuddio i Gyngor Sir Powys o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Roedd yr Hysbysiad Rhybuddio'n nodi nifer o gamau gweithredu y dylai’r Cyngor eu cymryd i unioni'r materion a nodwyd yn arolygiad AGGCC.
Dywedwyd eisoes wrth yr Aelodau fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gofyn i Weinidogion Cymru roi gwybod i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o fewn 90 diwrnod i gyflwyno'r Hysbysiad, am y camau y mae'r Cyngor wedi eu cymryd mewn ymateb i'r Hysbysiad Rhybuddio. Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynghylch y cynnydd a wnaed.
Er mwyn cydymffurfio â'r camau gweithredu a nodwyd yn yr Hysbysiad Rhybuddio, mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud y canlynol:
- Cyflwyno Cynllun Gwella ar 13 Tachwedd cyn pen y cyfnod o 20 diwrnod a bennwyd;
- Sefydlu Bwrdd Gwella i oruchwylio'r gwaith o weithredu'r cynllun hwnnw;
- Penodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol dros dro;
- Penodi Pennaeth Gwasanaethau Plant dros dro;
- Llenwi nifer sylweddol o swyddi gwag ymhlith staff y Gwasanaethau Plant. Mae nifer llawn o reolwyr gweithredol wrth eu gwaith.
Ym mis Rhagfyr, cynhaliodd AGGCC weithgarwch monitro dros gyfnod o 3 diwrnod a oedd yn cynnwys adolygu ffeiliau achosion a siarad â staff gweithredol y rheng flaen. Roedd y casgliadau y daethpwyd iddynt yn sgil yr ymweliad hwn yn dangos bod arwyddion cynnar o wella, gyda rhywfaint o dystiolaeth bod arferion gwell ar waith a bod llawer o feysydd lle'r oedd trefniadau newydd, gan gynnwys rhai agweddau ar arferion gweithredol, wedi eu cyflwyno ond heb gael eu hymgorffori'n llawn hyn yn hyn. Ers hynny, mae AGGCC wedi ysgrifennu i Gyngor Sir Powys i roi gwybod am ei chasgliadau sy'n amlygu meysydd y mae angen rhoi mwy o sylw iddynt, ac i ofyn i'r Cyngor eu cynnwys yn y Cynllun Gwella diwygiedig.
Er fy mod yn falch o weld bod y sefyllfa’n gwella, rwy'n benderfynol o sicrhau bod Gwasanaethau Plant Powys yn parhau i gael eu goruchwylio'n fanwl, hyd nes inni gyrraedd pwynt lle mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGGCC gynt) a Gweinidogion Cymru yn fodlon bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau o'r safon a'r ansawdd disgwyliedig. Gan gadw hyn mewn cof, rwyf wedi penderfynu cyflwyno Hysbysiad Rhybuddio diwygiedig i Gyngor Sir Powys, sy'n nodi camau gweithredu sydd wedi eu diweddaru. Drwy fynd ar hyd y trywydd hwn, rwy'n cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ond ar yr un pryd rwy'n pennu amserlen realistig i’r staff sicrhau’r cynnydd pellgyrhaeddol yr ydym am ei weld.
Mae'r Hysbysiad Rhybuddio sydd wedi ei ddiweddaru yn cael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw, ac fel o’r blaen, ar ddiwedd y cyfnod statudol o 90 o ddiwrnodau, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r aelodau ynghylch y camau gweithredu a gymerwyd. Erbyn hynny, byddaf yn disgwyl gweld gwelliannau sylweddol.
Yn dilyn yr arolygiad o wasanaethau plant a gynhaliwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru, mae’r Arolygiaeth wedi penderfynu dwyn ymlaen ei harolygiad oedd wedi ei gynllunio ar gyfer gwasanaethau oedolion. Rwy'n gallu cadarnhau y bydd yr arolygiad o Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Powys yn dechrau’r mis hwn.
Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 21 Tachwedd, a wnaed ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, nodwyd bod y Cyng. Rosemary Harris, Arweinydd Cyngor Powys, wedi gwneud cais am gymorth statudol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Drwy Solace Advisory, comisiynodd Gweinidogion Cymru adolygiad cychwynnol gan gyn Brif Weithredwr Llywodraeth Leol profiadol. Rydym yn disgwyl y bydd yr adroddiad hwnnw’n barod erbyn mis Ionawr, a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu pecyn cymorth llawn, gan gynnwys trefniadau llywodraethu cynhwysfawr.