Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddodd yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol (IICSA) ei adroddiad terfynol ym mis Hydref 2022.
Amlinellodd ei ganfyddiadau ar ôl 8 mlynedd o dystiolaeth a gwrando ar ddioddefwyr a goroeswyr. Gwnaeth 20 o argymhellion yn ei adroddiad terfynol.
Rydym wedi cefnogi gwaith IICSA, a chymryd rhan ynddo, yn llawn yn ystod yr 8 mlynedd hyn. Rydym hefyd wedi cryfhau ein gwaith i atal camdriniaeth yng Nghymru wrth inni ymwneud â gwaith yr Ymchwiliad, gan ddysgu ohono wrth i’r broses fynd rhagddi.
O blith yr 20 o argymhellion, roedd 6 wedi’u cyfeirio at Lywodraeth Cymru. Mae fy swyddogion wedi ystyried y rhain, ac rwyf wedi cytuno ar ran Gweinidogion Cymru i dderbyn pedwar fel y’u hargymhellwyd a derbyn y ddau argymhelliad arall mewn egwyddor. Yn achos y mwyafrif o’r rhain, rydym eisoes yn cymryd camau tuag at yr hyn y mae’r Ymchwiliad yn ei ofyn gennym.
Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad annibynnol ynghylch cam-drin plant.
Er bod yr Ymchwiliad wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau, ni allwn anghofio’r dioddefwyr a’r goroeswyr niferus a gafodd eu methu gan sefydliadau. Yng Nghymru, rydym wedi cymryd camau breision i unioni’r methiannau blaenorol ac rydym yn gwybod na allwn fod yn hunanfodlon i atal camdriniaeth bellach. Byddwn yn parhau i gryfhau diogelu yng Nghymru a chadw gwyliadwriaeth.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.