Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Sefydlwyd y rhaglen Cyfuno: Creu cyfleoedd drwy ddiwylliant fel elfen allweddol o ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad Diwylliant a Thlodi gan y Farwnes Andrew a gyhoeddwyd yn 2014. Nod Cyfuno yw ceisio sicrhau bod adnoddau, gwasanaethau a rhaglenni o amrywiaeth eang o sectorau a sefydliadau yn cyd-fynd â’i gilydd. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar helpu’r cymunedau hynny sydd o dan anfantais economaidd. Yn draddodiadol gallai’r cymunedau hynny fod wedi wynebu rhwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain rhaglen Cyfuno ers ei sefydlu yn 2015, mewn partneriaeth â’r sector diwylliant a threftadaeth, gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru fel partneriaid gweithredol a phartneriaid darparu. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda naw awdurdod lleol ledled Cymru i ddarparu cyfleoedd diwylliannol wedi eu teilwra at anghenion cymunedau lleol, gan ddarparu cyfleoedd hyfforddi a gwirfoddoli, yn ogystal â chyfleoedd eraill. Fodd bynnag, er mwyn i’r rhaglen ddod yn fwy cynaliadwy rhaid iddi addasu i’r heriau newydd sydd wedi codi ers ei dechreuad.
Rwy’n falch o gadarnhau y penodwyd ARAD i gynnal astudiaeth annibynnol o fodel darparu cyfredol Cyfuno, ac i ba raddau y mae wedi cefnogi a galluogi’r rhaglen i gyflawni ei nodau cyffredinol. Bydd yr adolygiad yn datblygu’r gwaith Damcaniaeth Newid blaenorol a gwblhawyd ym mis Gorffennaf 2022. Gyda’i gilydd byddant yn llywio nodau’r rhaglen ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y potensial i ehangu’r rhaglen ledled Cymru. Byddaf yn ystyried yr argymhellion a ddarperir o ran y camau nesaf, gan gynnwys model darparu a ffefrir i gefnogi’r rhaglen o ran ei chyfeiriad yn y dyfodol.
Bydd ARAD yn gweithio’n agos â rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf cyn darparu argymhellion ym mis Chwefror 2023. Byddaf yn darparu diweddariad pellach wedi i’r adolygiad ddod i ben.