Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Wrth inni nesáu at y Nadolig, rwyf am roi gwybod i’r Aelodau am faterion diweddar sy’n ymwneud â'n hymateb dyngarol parhaus i sefyllfa Wcráin. Wedi misoedd o ofyn am sicrwydd ynghylch ariannu cynllun Cartrefi i Wcráin yn y dyfodol, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi rhywfaint o eglurder ar nifer o faterion rydym wedi eu trafod yn y Siambr.
Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU am gyllid Cartrefi i Wcráin yn y dyfodol yn cynnwys estyn cyfnod y taliadau 'diolch' i’r bobl sy’n cynnig llety hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn ar ôl i Wcreiniad gyrraedd y DU – rhywbeth yr oeddem wedi gofyn amdano droeon. Bydd hefyd yn cael ei godi i £500 y mis os bydd yr Wcreiniad sy’n cael ei letya eisoes wedi bod yn y DU am 12 mis.
Roeddem wedi gofyn am y codiad hwn i fod ar gael yn ystod y gaeaf hwn er mwyn helpu pobl i ymdopi â biliau ynni uchel a helpu i atal digartrefedd. Yn anffodus dim ond o ddiwedd gwanwyn 2023 ymlaen y bydd ar gael.
Mae'r cyhoeddiad ariannol hefyd yn cynnwys newyddion siomedig na fydd taliad tariff ar gyfer blwyddyn dau i Wcreiniaid sydd â fisa dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Mae hyn yn anghyson â llwybrau adsefydlu eraill Llywodraeth y DU, a bydd yn rhoi pwysau aruthrol ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.
Byddem wedi disgwyl gweld taliad tariff o tua £6,000 i bob unigolyn ar gyfer blwyddyn dau. Yn lle hynny, bydd Llywodraeth y DU yn darparu cyfran gymesur o gronfa gymorth tai newydd gwerth £150m. Rydym yn disgwyl i hyn ddod â rhwng £7m a £9m i Gymru – o'i gymharu â thua £37m pe bai tariff blwyddyn dau ar gael.
Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi dweud ei bod yn bwriadu torri tariff blwyddyn un ar gyfer newydd-ddyfodiaid (ar ôl 1 Ionawr 2023) o £10,500 i £5,900. Mae tua 2,400 o fisâu yn cael eu rhoi i unigolion sydd heb deithio i Gymru eto. Pe bai pawb yn cyrraedd ar ôl 1 Ionawr, byddai awdurdodau lleol Cymru yn cael £14.16m o'i gymharu â'r £25.2m a fyddai wedi bod ar gael pan gafodd ceisiadau am fisâu eu gwneud a’u cefnogi i ddechrau.
Rydym yn parhau heb eglurder am unrhyw dariff ar gyfer blwyddyn tri nac ychwaith am gronfa amgen i barhau i gefnogi pobl o Wcráin tra byddant yn y DU. Dan gynlluniau adsefydlu eraill mae tariff blwyddyn tri o £4,020 wedi cael ei ddefnyddio. Os na fydd cyllid ar gael, yna ni fydd £24.92m arall mewn cymorth posibl ar gael i’r rhai sydd eisoes yma. O gynnwys y rhai sydd â fisâu ac sydd heb gyrraedd eto, gallai'r cyfanswm o gymorth ariannol ar gyfer blwyddyn tri a gollwyd i Gymru fod mor uchel â £34.57m.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud y penderfyniad i gynnwys £40m yn ein Cyllideb Ddrafft i barhau â’n cefnogaeth i bobl o Wcráin yng Nghymru ar gyfer 2023-24 a dyraniad pellach o £20m yn 2024-25. Byddwn yn gweithio’n agos gyda'n partneriaid llywodraeth leol i ail ystyried ein strategaeth, er mwyn inni allu sicrhau bod modd darparu cymorth i’r rhai sydd ei angen dros y flwyddyn i ddod. Mae'r dyraniadau hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad parhaus fel Cenedl Noddfa i adsefydlu'r rhai yr ydym eisoes wedi'u croesawu a'r rhai sydd heb gyrraedd eto.
Rwy'n parhau i ymweld â'r llety cychwynnol rydym wedi eu sefydlu ledled Cymru ac wedi ymweld â chanolfan groeso yn ne Cymru heddiw. Cefais gyfle i glywed yn uniongyrchol gan ein gwesteion am y cymorth sydd ar gael a sut maen nhw'n ymgartrefu yng Nghymru. Rydym hefyd wedi anfon cylchlythyr arall i Wcreiniaid sy’n byw yng Nghymru, er mwyn eu cynorthwyo i gadw mewn cysylltiad ac i ddymuno Nadolig heddychlon iddynt dan yr amgylchiadau.
Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i roi sylw i’r cymorth sydd ei angen yn Wcráin yn ogystal â'r cymorth a roddir i bobl sydd wedi ceisio diogelwch a noddfa yma yng Nghymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.