Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ei gyfarfod ym mis Mehefin 2022, fe wnaeth Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU argymhelliad cadarnhaol i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu gyda darpariaeth gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu integredig ar gyfer pobl 55-74 oed sydd â hanes o ysmygu. Derbyniodd Pwyllgor Sgrinio Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd 2022.
Cyn i Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU wneud ei argymhellion diweddaraf ynghylch rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu, roedd y Grŵp Gweithredu ar Ganser (Rhwydwaith Canser Cymru erbyn hyn) wedi dechrau ar waith cwmpasu yn 2019. Penodwyd tîm bach o fewn Cydweithrediaeth Iechyd y GIG i ymgymryd â’r gwaith. Cyflwynodd y tîm dystiolaeth i gefnogi Archwiliadau Iechyd yr Ysgyfaint/rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu ac argymhellwyd cynnal cynllun peilot gweithredol yng Nghymru i lywio unrhyw gynlluniau posibl i gyflwyno rhaglen o’r fath yn ehangach yn y dyfodol. Ehangodd y tîm hwn yn ystod 2022 i gefnogi’r gwaith o gynnal y cynllun peilot gweithredol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg gan adrodd i Fwrdd Rhwydwaith Canser Cymru. Mae’r cyllid i gynnal y cynllun peilot gweithredol wedi’i ddarparu ar sail grant neu nawdd gan nifer o bartneriaid yn y trydydd sector a’r diwydiant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU ar gyfer cyflwyno rhaglen sgrinio ysgyfaint wedi’i thargedu mewn egwyddor ac mae’n ystyried sut y gellid cyflawni hyn yng Nghymru. Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer rhaglen genedlaethol i Gymru ac rydym yn awyddus i ddysgu o ganfyddiadau’r cynllun peilot gweithredol sydd i fod i ddechrau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eleni. Wrth fynd â’r gwaith hwn yn ei flaen, rydym yn dymuno clywed gan bobl Cymru, elusennau a’r holl weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol a meysydd gwasanaeth perthnasol. Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Alban a Lloegr i nodi’r llwybr delfrydol, sydd eto i’w benderfynu.
Roedd Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU hefyd yn argymell integreiddio â’n gwasanaeth rhoi’r gorau i ysmygu, Helpa Fi i Stopio, sy’n darparu cymorth seiliedig ar dystiolaeth am ddim i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru. Wrth i’r rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i thargedu ddatblygu, rydym yn bwriadu sicrhau bod ein gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu wedi’u hintegreiddio’n llawn â’r rhaglen sgrinio fel y gallwn helpu mwy o ysmygwyr yng Nghymru i roi’r gorau iddi.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.