Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth 2021 gwnaed rheoliadau i sefydlu pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru. Yn ogystal â darparu ar gyfer sefydlu’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mae'r Rheoliadau Sefydlu yn cynnwys y trefniadau cyfansoddiadol craidd a manylion allweddol fel aelodaeth a'r swyddogaethau a gaiff eu harfer gan bob Cyd-bwyllgor Corfforedig: cynllunio datblygiad strategol; cynllunio trafnidiaeth ranbarthol; a'r pŵer i wneud pethau i hybu neu i wella llesiant economaidd eu hardaloedd. Roedd nifer o offerynnau eraill yn cyd-fynd â'r Rheoliadau Sefydlu gan sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig (a'u haelodau) yn destun gofynion goruchwylio, rheoli ac ymddygiad priodol o'r cychwyn cyntaf.

Ddoe, yn dilyn ymgynghoriad, gosodais Reoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 fel rhan o'r cam nesaf o roi'r fframwaith deddfwriaethol sylfaenol ar waith ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae hyn yn unol â'r egwyddor bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn rhan o’r teulu llywodraeth leol ac y dylent weithredu yn yr un modd. Mae'n rhan o'r dull gweithredu fesul cam y cytunwyd arno gyda llywodraeth leol i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio priodol ar waith ar gyfer llywodraethu Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gadarn ac yn dryloyw fel cyrff cyhoeddus.

Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer nifer o drefniadau gweinyddol technegol ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer rolau ‘swyddogion gweithredol’ penodol i gefnogi gwaith y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn ogystal â rhai darpariaethau cyffredinol mewn perthynas â staff y Cyd-bwyllgorau, i alluogi i’w swyddogaethau gael eu cyflawni gan bobl eraill, er enghraifft ei staff neu ei is-bwyllgorau, ac ar gyfer cyfarfodydd a thrafodion. Maent hefyd yn gwneud nifer fach o ddiwygiadau amrywiol a chanlyniadol i weithredu’r darpariaethau hyn yn llawn.

Mae nifer o Offerynnau Statudol hefyd wedi'u gosod ochr yn ochr â Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 fel rhan o'r ail gam hwn. Mae'r rhain yn cwblhau'r broses o gymhwyso'r dyletswyddau cyrff cyhoeddus hynny y byddech yn disgwyl iddynt fod yn berthnasol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan sicrhau bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig:

  • o fewn cwmpas Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 ac yn galluogi i Gomisiynydd y Gymraeg wneud hysbysiad cydymffurfio mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig
  • yn agored i gydymffurfio â'r Dyletswyddau Datblygu Cynaliadwy a Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015
  • yn ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Economaidd Gymdeithasol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • yn cyfrannu at ddileu tlodi plant
  • yn rhoi sylw i ddibenion gwarchod a gwella harddwch naturiol ardal a chynnal a gwella bioamrywiaeth wrth arfer eu swyddogaethau
  • rhoi sylw i ddibenion Parciau Cenedlaethol wrth arfer swyddogaethau mewn perthynas â thir mewn Parc Cenedlaethol, neu sy'n effeithio arno.

Heddiw, rwyf wedi lansio ymgynghoriad ar gam nesaf datblygiad y fframwaith deddfwriaethol ehangach a chymhwyso elfennau penodol o’r fframwaith hwnnw.

Mae'r ymgynghoriad technegol chwe wythnos hwn (a fydd yn cau ddydd Mercher 22 Rhagfyr), yn adeiladu ar yr ymgyngoriadau blaenorol ar gyfer camau un a dau ac yn gofyn am farn ar reoliadau a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fabwysiadu cod ymddygiad ar gyfer aelodau ac ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a phanel dyfarnu Cymru i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a’u haelodau. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth i Gyd-bwyllgorau Corfforedig fasnachu a chynnal gweithgarwch masnachol. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyhoeddi eu cyfansoddiad a chanllaw i’r cyfansoddiad, yn ogystal â chynnwys nifer o fân ddarpariaethau yn ymwneud â chyllid, achosion cyfreithiol, cofnodion / dogfennau, materion staffio a'r gweithlu a diwygiadau amrywiol eraill. Y bwriad hefyd yw cynnwys darpariaeth ar gyfer trosolwg a chraffu yn y drydedd set hon o reoliadau cyffredinol, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad.

Mae’r rheoliadau drafft a’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn: Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 | LLYW.CYMRU

Yna bydd pedwerydd prif set, sef y brif set derfynol, yn sefydlu’r ddarpariaeth berthnasol sy'n weddill, gan gynnwys darpariaeth ar reolau sefydlog a chymhwyso trefn perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig, ac unrhyw faterion sy'n weddill. Byddwn yn ymgynghori ar y cam hwn yn ystod gwanwyn 2022.

Bydd Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 ac Offerynnau cysylltiedig yn cael eu gwneud o dan y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol a byddant yn cael eu trafod gan y Senedd ar 30 Tachwedd.

Ar yr amod eu bod yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, daw’r Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 a’r Offerynnau cysylltiedig i rym ar 3 Rhagfyr  2021.