Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ar 11 Tachwedd 2020 cyhoeddais Gynllun Gweithredu Diwedd Cyfnod Pontio’r UE Llywodraeth Cymru. Roedd ein cynllun yn nodi blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru wrth baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru, yn annibynnol ac ar y cyd â Llywodraeth y DU a phartneriaid yng Nghymru, i sicrhau bod y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, unigolion a chymunedau mor barod â phosibl ar gyfer newid anochel. Fel Llywodraeth gyfrifol, gwnaethom gynllunio ar gyfer y sefyllfa waethaf – canlyniad heb gytundeb. Wrth gyhoeddi'r Cynllun Gweithredu, ymrwymais hefyd i adolygu ein blaenoriaethau pe byddai’r DU a'r UE yn dod i gytundeb.
Ar 24 Rhagfyr 2020, saith diwrnod cyn diwedd y cyfnod pontio, daeth y trafodaethau i ben, daeth yr UE a'r DU i gytundeb, ac yna cafodd Cytundeb Masnach a Chydweithredu'r DU/UE ei gyhoeddi. Roedd y Datganiad Ysgrifenedig gan y Prif Weinidog ar 24 Rhagfyr 2020 yn nodi ymateb uniongyrchol Llywodraeth Cymru i'r cytundeb. Er ein bod yn croesawu'r ffaith bod y DU wedi osgoi canlyniad anhrefnus heb gytundeb, mae'r cytundeb yn un gwan iawn gyda rhwystrau newydd sylweddol i fasnachu a lefelau sylweddol is o gydweithrediad â'r UE ar draws nifer o feysydd pwysig, gan gynnwys diogelwch.
Yn dilyn ei gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi craffu ar gynnwys y Cytundeb er mwyn deall yn well yr effaith ar ddinasyddion Cymru a bydd yn cyhoeddi canlyniad y dadansoddiad cyffredinol hwnnw cyn bo hir.
Ein blaenoriaeth oedd canolbwyntio ar gefnogi dinasyddion Cymru ac economi Cymru yn yr ymdrech i ymateb i'r newid a'r heriau anochel yn sgil y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, a bydd hyn yn parhau. Rydym wedi defnyddio'r camau a nodwyd yng nghynllun gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio yn ôl yr angen, gan barhau i weithio'n agos gyda phartneriaid i wneud hynny. Hoffwn ddiolch i'n holl bartneriaid am eu hymdrechion a'r ysbryd partneriaeth sydd wedi bod mor bwysig wrth inni baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, a gweithio i addasu iddo.
Rhan bwysig o hyn oedd diweddaru ein gwefan Paratoi Cymru yn gyflym. Mae’r wefan yn rhoi cyngor i fusnesau, rhanddeiliaid eraill a'r cyhoedd, ac yn eu cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth pellach. Rydym yn annog unrhyw un sydd â chwestiynau am effaith diwedd y cyfnod pontio a’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu i ddefnyddio’r adnodd hwn. Rydym hefyd wedi sicrhau bod digon o allu o fewn ein gwasanaethau cynghori i ymateb i geisiadau am gyngor.
Rydym wedi bod yn rhoi sylw manwl i’r effeithiau a rhyngweithiadau cyfansawdd posibl rhwng diwedd y cyfnod pontio, goblygiadau COVID-19, a risgiau eraill fel digwyddiadau tywydd garw a ffliw adar. Mae ein trefniadau argyfyngau sifil posibl wedi bod ar waith yn llawn dros y cyfnod hwn, ac wedi cefnogi cydgysylltu a chyfathrebu gweithgarwch yn effeithiol.
Fy asesiad cychwynnol yw bod y blaenoriaethau strategol a nodwyd yn ein Cynllun Gweithredu yn parhau i fod yn berthnasol ac nid yw'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu wedi newid llawer o ran y camau gweithredu allweddol a nodwyd gennym. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y camau gweithredu o fewn y pum blaenoriaeth strategol:
Cyflenwi nwyddau critigol – gan gynnwys cyflenwi bwyd, meddyginiaeth a chyflenwadau meddygol ac eitemau hanfodol eraill.
Roedd cytundeb yn bwysig er mwyn sicrhau llif parhaus o nwyddau rhwng y DU a'r UE ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Fodd bynnag, rydym wedi gweld rhywfaint o darfu ar y ffiniau o hyd wrth i fusnesau a gweithredwyr addasu i broses newydd sy'n gysylltiedig â symud nwyddau. At hynny, roedd nifer y symudiadau cludo nwyddau ar draws y dŵr a, hyd yn oed yn fwy amlwg, ar lwybr Cymru-Iwerddon yn llawer is na’r lefel arferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn.
Er bod risg o hyd i gyflenwi nwyddau, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu camau sy'n ceisio sicrhau cyflenwad parhaus o nwyddau hanfodol a bydd yn parhau â’r mesurau lliniaru a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu.
Parodrwydd a chymorth busnes – darparu canllawiau manwl i fusnesau a diwydiant, cyngor masnachu trawsffiniol a llif rhydd data, a chymorth i sectorau penodol, gan dybio bod arian ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Drysorlys EM.
Mae'r rhan fwyaf o'r camau gweithredu yn y thema hon yn parhau i fod yn berthnasol iawn oherwydd, hyd yn oed gyda chytundeb, mae newidiadau sylweddol iawn y mae angen i fusnesau addasu iddynt, nawr a thros y misoedd nesaf. Roedd llawer o fusnesau'n aros am gytundeb i ddeall y goblygiadau a'r mesurau gofynnol o ganlyniad. Byddwn yn parhau i weithio gyda busnesau i ddarparu gwybodaeth a chymorth gan gynnwys drwy ein hadnoddau ar-lein fel Porth Pontio'r UE. Yn ogystal â hyn, rydym wedi bod yn cynnal seminarau parodrwydd i fasnachwyr gyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth Iwerddon i gefnogi busnesau i reoli eu masnach barhaus ag Iwerddon.
Nid oes angen rhai o'r ymyriadau sector-benodol yr oeddem wedi paratoi ar eu cyfer i'r un graddau, o ystyried y cytundeb sydd ar waith. Nid oes bellach angen cymorth ar gyfer y sector cig coch i’r un graddau ag y byddai angen mewn sefyllfa heb gytundeb gan fod y cytundeb o leiaf yn darparu ar gyfer dim tariffau. Fodd bynnag, gwyddom fod y cytundeb wedi cyflwyno rhwystrau sylweddol nad ydynt yn dariffau ac mae gwaith yn parhau i ddadansoddi goblygiadau llawn y cytundeb ar bob sector o'r economi.
Yn barod, mae allforwyr bwyd môr o Gymru yn cael problemau wrth allforio cynnyrch i'r UE ac mae rhai o'r anawsterau hyn wedi arwain at ohirio llwythi o gynnyrch ffres a chynnyrch byw, neu eu gadael yn sownd. Mae'r rhain yn gynnyrch darfodus iawn a gall unrhyw oedi sylweddol effeithio'n ddifrifol ar eu gwerth. Rydym wedi bod yn cysylltu ag allforwyr ac yn cyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU dros iawndal i'r sector allforio a'r gadwyn gyflenwi gyfan. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gronfa iawndal o £23m ar gyfer cymorth bwyd môr heb unrhyw fanylion gwirioneddol am y cynllun na'r meini prawf cymhwysedd, ac nid yw wedi'i gyd-gynllunio gyda’r llywodraethau datganoledig. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar fanylion y gefnogaeth a’i effaith ar ddiwydiant bwyd môr Cymru.
O ran llif data, cytunwyd i sefydlu 'dull pontio' tra bod yr UE yn ystyried digonolrwydd data. Mae hyn yn dileu'r bygythiad uniongyrchol i lif data rhwng y DU a'r UE, ond mae risgiau'n parhau y mae angen i bob sector o'r economi liniaru yn eu herbyn ac rydym yn parhau i gyfathrebu canllawiau arfer gorau ar y mater hwn.
Gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau – gan gynnwys dinasyddion yr UE, gwydnwch data gwasanaethau cyhoeddus, cyngor ar bopeth a thrafnidiaeth a theithio
Mae'r camau gweithredu yn y maes hwn yn aros yn weddol ddigyfnewid o ganlyniad i'r cytundeb. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwasanaethau sy'n rhoi cyngor i bob dinesydd gan gynnwys ar Statws Preswylydd Sefydlog yr UE, gan gydnabod mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw cynllunio a gweithredu'r cynllun statws sefydlog.
Mae'r cytundeb hefyd wedi darparu rhai mesurau diogelu pwysig ar gyfer y sector trafnidiaeth, gan gynnwys awyrennau a chludo nwyddau, ond efallai y bydd rhai effeithiau difrifol o hyd. Mae hyn yn fwyaf tebygol ar gyfer marchnadoedd arbenigol, o ganlyniad i'r rheolau newydd ar fasnach, yn ogystal â phroblemau’r gofynion fisa newydd ar gyfer rhai gweithwyr proffesiynol e.e. cerddorion.
Gweithgareddau gweithredol – gan gynnwys porthladdoedd a rheoli traffig, ynni a newid yn yr hinsawdd, dyfodol rhaglenni'r UE.
Gan fod y camau hyn yn canolbwyntio ar y gweithgareddau gweithredol newydd y mae angen i Lywodraeth Cymru ymgymryd â hwy o ganlyniad i ymadael â’r UE, mae'r rhain yn aros yn ddigyfnewid ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel. Mae’r meysydd sy'n peri pryder parhaus yn cynnwys gweithredu gofynion ffiniau newydd a'n gweithredoedd mewn ymateb i benderfyniad anffodus iawn Llywodraeth y DU i beidio â chymryd rhan yng nghynllun addysgol yr UE, Erasmus+.
Rydym wedi bod yn gweithredu ein cynllun rheoli traffig wrth gefn yn y Gogledd, ac yn gweithio gyda Chyngor Sir Penfro i sicrhau bod lle ar gyfer traffig sy’n cyrraedd Doc Penfro ac Abergwaun heb y ddogfennaeth briodol. Mae'r rhain wedi bod yn effeithiol o ran rheoli'r traffig heb ddogfennaeth briodol a welwyd hyd yma a byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa draffig yn ein porthladdoedd dros yr wythnosau nesaf.
Er bod lefel y traffig heb y ddogfennaeth briodol wedi bod yn gostwng yn ystod y mis, rydym yn dal i weld lefelau isel o draffig drwy borthladdoedd Cymru. Rydym wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Llywodraethau'r DU ac Iwerddon, yn ogystal â'r gweithredwyr porthladdoedd a fferi, awdurdodau lleol, masnachwyr a chludwyr, i archwilio pa opsiynau sydd ar gael i helpu busnesau i lywio a dod yn hyderus gyda phrosesau newydd ar y ffin, a ddylai yn ei dro helpu i ddenu traffig yn ôl i lwybrau cyflymach drwy borthladdoedd Cymru.
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yr wythnos hon i ofyn sut y maent yn bwriadu gwrthdroi'r gostyngiad cyson hwn mewn traffig ym mhorthladdoedd Cymru. Nid problemau cychwynnol yn unig yw'r rhain. O ganlyniad i ddewisiadau polisi Llywodraeth y DU ar fasnachu â'r UE, mae busnesau'n talu mwy ac yn cymryd mwy o amser i ddanfon nwyddau o amgylch y DU yn hytrach na chymryd y llwybrau cyflymach a mwy effeithlon drwy borthladdoedd Cymru. Mae canlyniadau hyn ar gymunedau ein porthladdoedd yn ddifrifol. Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw'r systemau dan sylw ac rydym angen gweld cefnogaeth a hyfforddiant manwl i sicrhau bod busnesau a chludwyr yn hyderus wrth ddefnyddio prosesau newydd ar y ffin ac i sicrhau bod masnach yn llifo'n ôl drwy'r llwybrau cyflymaf i'r farchnad.
Mae trafodaethau gyda diwydiannau’n awgrymu bod cryn dipyn o draffig heb y ddogfennaeth briodol hefyd yn dewis aros mewn warysau neu ddepos yn hytrach na mynd i borthladdoedd. Mae angen inni sicrhau y gall y fasnach honno symud eto, ond byddwn yn parhau i asesu a rheoli'r risgiau canlyniadol ar draffig os yw'n gwneud hynny heb fod yn gwbl barod ac yn cael ei wrthod yn y porthladd.
Yn ogystal, rydym hefyd yn clywed bod y prosesau newydd yn atal traffig rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, a'i fod naill ai'n ailgyfeirio drwy borthladdoedd Lloegr neu'r Alban neu ddim yn teithio o gwbl. Mae hyn yn cynrychioli pryder mawr nad yw'r prosesau tramwy y mae Llywodraeth y DU wedi'u rhoi ar waith yn ddigonol i atal tarfu ar draffig rhwng Gogledd Iwerddon a Chymru.
Rydym wedi codi'r pryderon hyn ar frys gyda Llywodraeth y DU, a byddwn yn pwyso arni i sicrhau y bydd pob cam posibl yn cael eu cymryd i hwyluso traffig sy'n teithio rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon ac i sicrhau nad yw busnesau'n cael eu gorfodi i ddewis rhwng gofynion tramwy beichus, cymryd llwybrau hirach ac felly mwy costus drwy Loegr neu'r Alban, neu beidio â theithio'n gyfan gwbl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gyflawni hyn, ond Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o'r systemau o dan sylw. Mae angen cefnogaeth a hyfforddiant manwl i sicrhau bod busnesau a chludwyr yn hyderus wrth ddefnyddio prosesau newydd ar y ffin a chadw nwyddau'n symud mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.
Adnoddau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru – gan gynnwys negodiadau gyda Thrysorlys EM ar gyllid, Cronfa Ffyniant a Rennir y DU a goblygiadau ar Ddeddfwriaeth a Swyddogaethau Newydd.
Mae'r camau gweithredu o dan y thema hon i gyd yn parhau i fod yn berthnasol. Mae goblygiadau niweidiol Adolygiad o Wariant y DU a phenderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant a Rennir yn hysbys iawn, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau canlyniad teg i ddinasyddion Cymru.
Ar ôl ymadael â’r UE mae Llywodraeth Cymru wedi cael nifer o swyddogaethau ychwanegol a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn yr UE. Gyda'r swyddogaethau ychwanegol hyn daw gofynion adnoddau ychwanegol na all Llywodraeth Cymru eu bodloni gyda'r lefel wael o gymorth ariannol y mae Llywodraeth y DU wedi'i chyhoeddi. Yr wyf wedi mynegi fy mhryderon i Lywodraeth y DU.
Yn ogystal â hyn, mae rhaglen ddeddfwriaethol sylweddol wedi'i sefydlu i weithredu ein hymadawiad â'r UE. Cafodd Offerynnau Statudol Ymadael â’r UE y nodwyd eu bod yn ofynnol erbyn diwedd y cyfnod pontio eu cyflawni ar amser, i wneud cywiriadau pellach i gyfraith yr UE a gedwir er mwyn sicrhau llyfr statud gweithredol ac i weithredu'r Cytundeb Ymadael a chytundebau cysylltiedig. Rhoddodd Gweinidogion Cymru gymeradwyaeth ar gyfer dros 50 o Offerynnau Statudol y DU a gwnaed 20 o Offerynnau Statudol Cymru yn ystod y cyfnod pontio ac rydym yn parhau i weithio ar Offerynnau Statudol Ymadael â’r UE nad ydynt yn gyfyngedig o ran amser ac unrhyw Offerynnau Statudol pellach sydd i'w gwneud o dan Ddeddf Perthynas y Dyfodol.
Rydym i gyd yng nghamau cynnar y broses o ddeall, a phrofi goblygiadau a heriau ein hymadawiad â'r UE, ond bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, gan ymgysylltu â busnesau, cymunedau a phobl Cymru i ganfod goblygiadau ymarferol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac adolygu'r cymorth y gallwn ei ddarparu.