Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021



Gyda’r tendrau terfynol fod i ddod i law erbyn diwedd y flwyddyn, mae gennym dri chwmni â chymwysterau o'r radd flaenaf yn cyflwyno'u hachosion penodol eu hunain ar sut y byddant yn cyflawni'r amcanion uchelgeisiol a bennwyd, gyda'r nod o sicrhau newid mawr i wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr ar draws Cymru a'r Gororau.

Mae’r broses gaffael yn un anodd a dyrys ac rydym yn cydnabod y gwaith helaeth y mae Arriva wedi’i wneud hyd yma. Hoffem ddiolch i’r cwmni am ei gefnogaeth a’i agwedd gadarnhaol ers dechrau'r broses gaffael a byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â'r cwmni i sicrhau bod y staff a'r cwsmeriaid presennol yn cael lle canolog wrth inni fynd ati dros y 12 mis nesaf i gynllunio'r cyfnod pontio.

Mae tîm Trafnidiaeth Cymru sy'n rheoli'r broses gaffael ar ein rhan yn dweud bod yr ymgeiswyr eraill yn parhau i chwarae rhan lawn yn y broses.  

Mae Trenau Arriva  Cymru wedi hysbysu Trafnidiaeth Cymru eu bod yn bwriadu tynnu'n ôl o'r broses ymgeisio ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau. Nid yw’n anarferol i’r rheini sy’n ymgeisio am brosiectau mawr dynnu’n ôl yn ystod y broses dendro ac mae Arriva wedi nodi’n glir mai am eu rhesymau masnachol eu hunain y maent wedi gwneud hynny.