Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth
Rwyf yn ysgrifennu at yr aelodau yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig am reilffyrdd a gyhoeddwyd ddydd Llun 30 Hydref.
Yn fy natganiad, fe’i gwnes yn glir fod Rheilffyrdd Arriva Cymru (ARW) wedi rhoi gwybod i Trafnidiaeth Cymru (TfW) eu bod yn bwriadu tynnu’n ôl o'r broses ymgeisio a oedd ar droed i ddewis cwmni gweithredu a phartner datblygu ar gyfer masnachfraint rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau a’r Metro. Nid yw’n anarferol i’r rheini sy’n ymgeisio am brosiectau mawr dynnu’n ôl yn ystod y broses dendro ac mae ARW wedi nodi’n glir mai am eu rhesymau masnachol eu hunain y maent wedi gwneud hynny.
ARW yn unig a wnaeth y penderfyniad i dynnu’n ôl ac maent wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud hynny ar ôl cynnal eu dadansoddiad masnachol eu hunain o’r contract.
Nod y ddeialog gystadleuol yr ydym yn ei defnyddio fel rhan o’r broses dendro yw dod o hyd i weithredwr a phartner datblygu o’r radd flaenaf ar gyfer y fasnachfraint newydd − un a fydd yn gallu datblygu’r atebion arloesol sydd eu hangen er mwyn datblygu gwasanaethau ar brosiectau Metro De Cymru a Metro Gogledd-ddwyrain Cymru.
Mae TfW yn ein cynorthwyo drwy gydol y broses hon. Rydym yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth am y broses dendro cyn gynted ag y gallwn, o gofio natur y broses. Unwaith y bydd darparwr y gwasanaeth wedi’i benodi, yn gynnar y flwyddyn nesaf, byddwn yn trefnu bod rhagor o ddogfennau, gan gynnwys y ddogfen dendro, ar gael yn gyhoeddus.
Yn ystod cyfnod y Ddeialog, cysylltwyd yn aml â'r holl ymgeiswyr i ddatblygu telerau masnachol a thechnegol y tendr mewn ymateb i'n blaenoriaethau o ran canlyniadau. Mae TfW wedi llunio crynodeb o'r blaenoriaethau hynny yn Gwasanaethau Rheilffyrdd ar gyfer y Dyfodol.
Bydd y trafodaethau sydd wedi'u trefnu rhwng TfW ac ymgeiswyr yn parhau yn ystod y cyfnod ymgeisio presennol, a fydd yn dod i ben ar 21 Rhagfyr. Gan fod y tendrau ffurfiol wedi'u cyflwyno bellach, unig nod y trafodaethau hynny yw rhoi eglurhad pellach yn hytrach na thrafod newidiadau. Mae'r trafodaethau hyn ac unrhyw eglurhad a roddir yn gwbl gyfrinachol. Nid oes unrhyw gwynion wedi dod i law oddi wrth yr ymgeiswyr am y broses nac am delerau’r tendr. Nod penodol y broses o gynnal Deialog Gystadleuol oedd caniatáu i ymgeiswyr a Trafnidiaeth Cymru godi materion yr oedd angen eglurhad pellach arnynt neu yr oedd pryder yn eu cylch wrth i’r atebion masnachol a thechnegol gael eu datblygu.
Yn ystod cynhadledd dros y ffôn ddydd Gwener 27 Hydref, dywedodd ARW wrth TfW eu bod yn bwriadu tynnu’n ôl o broses y fasnachfraint. Rhoddodd ARW wybod i uwch-reolwyr Trenau Arriva Cymru (ATW) am eu penderfyniad ddydd Llun 30 Hydref. Cyhoeddodd TfW ddatganiad i’r wasg ar yr un diwrnod, gan amseru’r datganiad hwnnw yn unol â chais a wnaed gan ARW oherwydd eu bod yn dymuno rhoi gwybod i’r staff yr effeithir arnynt.
Mae’r tîm yn TfW sy’n rheoli’r broses gaffael ar ein rhan yn dweud bod yr ymgeiswyr eraill yn parhau i gymryd rhan lawn yn y broses.
Mae TfW a Llywodraeth Cymru yn gweithio bellach gyda Trenau Arriva Cymru (ATW), sef y rhan o grŵp Arriva sy’n rhedeg y fasnachfraint bresennol, i sicrhau bod y 2,500 o staff a gyflogir gan y cwmni yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd, fel na fydd trosglwyddo i’w cyflogwr newydd y flwyddyn nesaf yn tarfu’n ormodol arnynt, ac y byddant yn gallu parhau i ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd i Gymru a'r Gororau. Mae TfW wedi sefydlu tîm penodedig i reoli'r broses drosglwyddo honno.
Mae TfW wedi gofyn am sicrwydd oddi wrth ATW y byddant yn cyflawni’r holl ymrwymiadau sy’n gysylltiedig â’r fasnachfraint bresennol, ac yn gwneud hynny’n llawn. Byddaf, fel Ysgrifennydd Cabinet, yn gweithio gyda TfW i fonitro hyn yn agos er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni’r rhwymedigaethau sydd eisoes yn bod.
Rydym yn gweithio gydag ATW i gyflawni sawl prosiect allweddol er mwyn sicrhau bod y fasnachfraint nesaf yn cael ei rhoi ar waith yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys uwchraddio elfennau o'r trenau presennol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd, darparu fflyd o drenau newydd sy'n cynnwys pedwar cerbyd a chyflwyno Wi-Fi ar draws trenau a gorsafoedd.
Y peth pwysig imi yn awr yw bod staff yn parhau i fod yn frwdfrydig, bod gwasanaethau’n parhau i redeg yn llyfn ar gyfer teithwyr ledled Cymru, a bod y broses o drosglwyddo i weithredwr nesaf masnachfraint Cymru a’r Gororau yn un lwyddiannus.