Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar effaith diddymu Carillion ar gaffael gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau a chwmni gweithredu a phartner datblygu'r Metro ar 17 Ionawr, mae Abeilio Rail Cymru (ARC) wedi hysbysu Trafnidiaeth Cymru eu bod wedi tynnu'n ôl o'r broses gaffael o 17:00 o'r gloch ar 22 Chwefror 2018.  

Er gwaethaf ymdrechion gorau y tîm o arbenigwyr, cyfreithwyr a chynghorwyr Trafnidiaeth Cymru, a thîm ARC, mae ARC bellach yn anffodus wedi gwneud y penderfyniad i dynnu eu cais yn ôl gan eu bod wedi methu â dod dros effaith diddymu Carillion.

Mae ARC wedi cyfrannu at y broses gaffael ac wedi cyfrannu'n broffesiynol drwy gydol y broses. Rwyf am ddiolch i dîm ARC am eu gwaith caled yn ystod y broses. Mae'n anffodus, wedi iddynt fuddsoddi amser, ymdrech ac arian yn y broses, eu bod hwythau hefyd yn dioddef o ganlyniad i ddiddymu Carillion.

Clywodd Trafnidiaeth Cymru am y gostyngiad ym mhris cyfranddaliadau Carillion fis Gorffennaf 2017, a thrafodwyd hyn gydag ARC.  Fe ystyriodd ARC yr opsiynau, gan benderfynu aros gyda Carillion, ei bartner o fewn y consortiwm.  O ganlyniad roedd angen gwarant ariannol annibynnol gan fanc ar Trafnidiaeth Cymru ar gyfer perfformiad Carillion.

Pan gafodd Carillion eu diddymu, gofynnodd Trafnidiaeth Cymru i ARC wneud cynnig a oedd yn dangos ei bod yn parhau yn bosibl i ARC gynnig y Tendr Terfynol heb newid elfennau hanfodol ohono.  Mae’r diddymwr ers hynny wedi trafod gyda nifer o bartïon i werthu Carillion Rail ac i gadw swyddi, ac reodd yn bosibl y byddai ARC wedi gallu sicrhau y capasiti perthnasol drwy’r broses hon.  Roedd angen i ARC gyflwyno cynnig cadarn, unwaith yr oedd y diddymwr wedi gwneud ei benderfyniad, erbyn 17:00 ar 22ain Chwefror.  
 
Ddoe, bu i aelod consortiwm cynigydd arall lwyddo i brynu y rhan fwyaf o gwmni Carillion Rail gan y diddymwr.  Er bod hyn wedi diogelu nifer o swyddi yn Carillion Rail, yn anffodus roedd yn golygu nad oedd ARC yn gallu sicrhau bod ganddynt y capasiti angenrheidiol i fynd ymlaen.  Nos Iau yr 22ain Chwefror, hysbysodd ARC Trafnidiaeth Cymru o'u bwriad i dynnu'n ôl o'r broses.

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi edrych ar ba mor gadarn yw'r cynigwyr sy'n weddill, a'u gallu technegol, ac maent yn hyderus eu bod  yn gallu cynnig ateb o safon uchel fydd yn ein galluogi i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru.

Hoffwn gydnabod eto gyfraniad ARC at y broses hon. Mae cyfraniad brwdfrydig a phroffesiynol y tîm hyd yma wedi cyfrannu’n sylweddol at y broses gaffael.

Bydd y gwaith o werthuso'r broses gaffael yn parhau ac nid yw y ffaith bod ARC wedi tynnu'n ôl yn golygu bod unrhyw risg ariannol nac oedi yn y broses i Lywodraeth Cymru.  Pan gyflwynwyd y Tendrau Terfynol ym mis Rhagfyr, roedd tri cynigydd yn parhau yn y broses.  Cafodd y Tendrau Terfynol felly eu paratoi gyda pwysau cystadleuol sylweddol.  Nid yw'n bosib i'r cynigwyr newid eu Tendrau Terfynol nawr bod ARC wedi tynnu yn ôl.

Mae gennym ddau gynigydd cryf yn y broses ac rydym wedi llwyddo i gadw at yr amserlen i ddyfarnu’r contract cyffrous hwn ym mis Mai 2018 ac i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a’r gororau o fis Hydref 2018.  

Cafodd y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu'r aelodau. Pe byddai'r aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd rwyf yn hapus i wneud hynny.