Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn y gorffennol, rydw i wedi cyhoeddi datganiadau o dan y teitlau Mynediad at Gyllid ac Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael ar gyfer Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru. Yn dilyn hynny, hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y gwaith sydd wedi’i wneud ar yr astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer creu Banc Datblygu ar Gyfer Cymru (DBW).
Ym mis Mehefin 2014, gofynnais i’r Athro Dylan Jones-Evans arwain Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Gofynnais i’r Grŵp edrych ar genhadaeth a swyddogaeth Banc Datblygu a’r math o weithrediadau y gallai ymgymryd â nhw ac yna cyflwyno astudiaeth ddichonoldeb, yn seiliedig ar dystiolaeth, ar yr opsiynau y dylid eu hystyried.
Mae ei adroddiad bellach wedi dod i law. Mae’n codi materion allweddol sy’n ymwneud â’r dulliau o gau’r bwlch cyllido a chynorthwyo’r gwaith o gyflenwi cyllid i Fusnesau Bach a Chanolig Cymru, gan gynnwys mentrau elusennol, cymunedol a chymdeithasol. Hefyd, mae’n codi cwestiynau am rai o’r egwyddorion sy’n sail i’r modd y caiff cyllid ei ddarparu ac ynghylch y rôl y mae cyllid a roddir i Fusnesau Bach a Chanolig gan y llywodraeth yn ei chwarae mewn datblygu economaidd.
Wrth ymgymryd â’r astudiaeth ddichonoldeb, aeth y Grŵp ati i chwilio am gyfraniadau gan nifer o gyrff a sefydliadau yn y diwydiant. Yn ogystal, gwnaeth y Grŵp ymgysylltu’n eang ar draws y sector bancio a chyllid, a hefyd gyda chyfryngwyr, academyddion a’r gymuned fusnes yn ehangach. Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion a’r sefydliadau hynny sydd wedi cymryd rhan yn yr astudiaeth hon ac sydd wedi cyfrannu ati. Yn benodol, hoffwn ddiolch i’r Athro Jones-Evans ac aelodau’r grŵp am lunio’r gwaith cynhwysfawr hwn a hoffwn i’r diolch hwnnw fod ar gof a chadw.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 17 Mawrth a cheir cyfle yn sgil hynny i drafod yr adroddiad.