Neidio i'r prif gynnwy

Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Rwyf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am drydaneiddio Prif Linell Reilffordd y Great Western rhwng Abertawe a Llundain.

Rwyf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU er mwyn pwysleisio pwysigrwydd y prosiect hwn ac rwyf mewn cysylltiad rheolaidd â’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Er nad yw’r cyfrifoldeb dros y prosiect hwn, na’r cyllid ar ei gyfer, yn faterion datganoledig, mae fy swyddogion yn cydweithio â’r swyddogion sy’n cyfateb iddynt yn Whitehall i helpu i lywio’r achos busnes sy’n cael ei baratoi gan yr Adran Drafnidiaeth, a hynny am fod ystyriaethau economaidd ac amgylcheddol pwysig a ddeellir orau o safbwynt Cymreig.

Rydym wedi cael gwybod nad yw’r Adran Drafnidiaeth, hyd yma, wedi gorffen y fersiwn derfynol o’r achos busnes, ond rydym yn edrych ymlaen gael at ei gweld unwaith y bydd wedi’i chwblhau. Er hynny, mae’n galonogol iawn gweld bod arwyddion y byddai trydaneiddio’r llinell gyfan rhwng Abertawe a Llundain yn esgor ar fanteision amlwg a sylweddol iawn, a bod modd llunio achos busnes cadarnhaol iawn.

Ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddydd Gwener, 25 Chwefror i bwyso ar Lywodraeth y DU i gwblhau’r gwaith ar yr achos busnes ac i wneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch trydaneiddio’r llinell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain. Pwysleisiais unwaith yn rhagor y byddai’n fuddiol cael penderfyniad buan ynghylch bwrw ymlaen â’r gwaith o drydaneiddio’r llinell reilffordd rhwng Abertawe a Llundain, ac y byddai’n ffactor cadarnhaol yng ngolwg busnesau a fyddai am fuddsoddi yng Nghymru.