Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Llywodraeth Cymru wybod yr wythnos diwethaf am adroddiadau bod nifer uwch na'r disgwyl o brofion llif unffordd positif wedi arwain at ganlyniadau profion PCR negatif a bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) yn ymchwilio i hyn.

Tynnodd y Byrddau Iechyd sylw hefyd at achosion o nifer o ardaloedd yn Ne Cymru a allai fod wedi cael eu heffeithio yr ydym wedi bod yn eu hadolygu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gysylltu â'r gwaith sy'n cael ei arwain gan UKHSA. 

O ganlyniad i'r ymchwiliadau hyn, mae gwasanaeth Profi ac Olrhain GIG y DU wedi atal gweithrediadau profi a ddarperir gan labordy yn Lloegr ond mae'n effeithio ar rai trigolion yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud â materion technegol yn y labordy sydd wedi arwain at roi canlyniadau anghywir i rai pobl rhwng 8 Medi a 12 Hydref.  Rydym wedi cael gwybod bod y mater hwn wedi'i ynysu i'r labordy hwn ac nid yw'n cynnwys y rhwydwaith ehangach, gan gynnwys labordy IP5 yng Nghasnewydd sy'n prosesu'r rhan fwyaf o samplau o Gymru.

Mae UKHSA wedi ymchwilio i nifer y profion gan drigolion Cymru a broseswyd yn y labordy yr effeithiwyd arno ac maent yn amcangyfrif ei fod yn bosibl bod tua 4,000 o bobl wedi cael canlyniadau anghywir.  Rydym yn asesu y bydd y rhan fwyaf o'r profion hyn wedi'u cymryd mewn safleoedd profi ar draws ardal Gwent a Chwm Taf Morgannwg.

Bydd gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG yn cysylltu ag unrhyw un a gafodd brawf o 4 Hydref ymlaen ac a gafodd ganlyniad o'r labordy yr effeithiwyd arno drwy neges destun a/neu e-bost a'i hysbysu os oedd yn negatif i drefnu apwyntiad i gael ei ail brawf.  Bydd hefyd yn cynghori bod eu cysylltiadau agos sy'n symptomatig yn archebu prawf. Cysylltir â phobl a gafodd brawf a broseswyd yn y labordy rhwng 8 Medi a 4 Hydref hefyd a'u cynghori i gael prawf os oes ganddynt symptomau. Ein cyngor i bawb o hyd yw os oes gennych symptomau i hunanynysu ar unwaith ac archebu prawf PCR.

Fy mhryder uniongyrchol yw'r wybodaeth a'r cymorth i drigolion Cymru yr effeithir arnynt. Rwyf wedi gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarparu cymorth a chyngor ychwanegol i'r byrddau iechyd yr effeithir arnynt yn ychwanegol at negeseuon cyfathrebu UKHSA. Byddant hefyd yn asesu effaith bosibl y digwyddiad hwn ar gyfraddau achosion ac adroddiadau epidemioleg i Gymru.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag UKHSA a gwasanaeth Profi ac Olrhain y GIG ar y canfyddiadau a'r camau gweithredu sydd eu hangen a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddatblygiadau.