Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am berfformiad rhaglen Twf Swyddi Cymru.

Roedd 2013 yn flwyddyn ddisglair iawn i Twf Swyddi Cymru ac mae 2014 yn dilyn yr un trywydd. Mae ffigurau’r rhaglen y tu hwnt i’n disgwyliadau. Yn ôl ein ffigurau diweddaraf, mae nifer y swyddi a grewyd ac a gymeradwywyd drwy Twf Swyddi Cymru, rhaglen arloesol Llywodraeth Cymru i helpu pobl ifanc i gael gwaith, wedi pasio’r 10,000. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a gyhoeddwyd ar 23 Ionawr 2014 yn dangos bod Twf Swyddi Cymru, sy’n cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi creu 10,594 o gyfleoedd gwaith hyd yma, a bod 8,354 o bobl ifanc wedi llenwi’r swyddi hyn. Mae’r broses recriwtio yn cael ei defnyddio i baru pobl ifanc â’r cyfleoedd sy’n dal ar gael.

Elfen fwyaf y rhaglen yw elfen y sector preifat, ac mae 80 y cant o’r bobl ifanc sydd wedi dilyn y trywydd hwn wedi symud ymlaen i waith parhaol, prentisiaeth neu ddysgu pellach ar ôl cwblhau eu cyfle chwe mis. Ein targed oedd 70 y cant.

Mae cyfraddau llwyddiant elfennau’r Trydydd Sector a Graddedigion hefyd wedi’u cynnal ar lefelau tebyg i ystadegau mis Rhagfyr. Mae’r data sy’n dod i law am yr elfen Graddedigion yn dangos llwyddiant eithriadol, gyda dim ond 1% o bobl ifanc a gymerodd ran yn y rhaglen yn ddi-waith ar ddiwedd eu cyfnod chwe mis.

O astudio’r ffigurau, gwelir bod elfen hunangyflogaeth y rhaglen, sy’n cynnig bwrsariaeth i entrepreneuriaid ifanc, eisoes wedi helpu i greu 200 o fusnesau newydd ers iddi ddechrau ym mis Ebrill 2012. Fel Llywodraeth, rydym am ysgogi diwylliant o entrepreneuriaeth yng Nghymru, felly rwyf wrth fy modd bod Twf Swyddi Cymru wedi helpu 200 o bobl ifanc i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae hyn yn llawer gwell na’r targed, ac mae nifer y ceisiadau am y fwrsariaeth i entrepreneuriaid ifanc yn parhau i godi.

O edrych ar ganlyniadau Twf Swyddi Cymru yn gyffredinol, mae cyfran y bobl ifanc sydd wedi symud ymlaen i gael gwaith fel prentisiaid ar ddiwedd eu cyfnod gyda’r rhaglen wedi cyrraedd 25% - unwaith eto, yn rhagori ar y disgwyliadau. Drwy gydgysylltu ein rhaglenni hyfforddi a chyflogadwyedd, rydym yn creu llwybr i waith a chrefft i bobl ifanc. Byddai’r rhan fwyaf o lywodraethau Ewrop yn genfigennus iawn o lwyddiant fel hyn.

Mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gweladwy ym mywydau pobl ifanc – gan roi’r sgiliau a’r profiad perthnasol sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i waith parhaol. Mae Twf Swyddi Cymru yn cynnig ffordd o osgoi diweithdra hirdymor gan eu hatal rhag orfod dioddef y niwed cymdeithasol a phersonol a ddaw yn sgil cyfnodau hir o ddiweithdra fel oedolion ifanc.

Mae cyflogwyr o bob maint wedi dweud wrthyf cymaint yw datblygiad pobl ifanc sy’n dilyn rhaglen Twf Swyddi Cymru ers dechrau eu chwe mis, a’r gwahaniaeth y mae’r bobl ifanc wedi’i wneud wrth helpu i ehangu eu busnes. I lawer o gyflogwyr, Twf Swyddi Cymru oedd yr union beth oedd ei angen i ysgogi twf.

Mae’r adborth gan y bobl ifanc hefyd wedi bod yn aruthrol o bositif. Roedd llawer yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith cyn dilyn y rhaglen, ond diolch i’r cyfle chwe mis hwn, maent wedi osgoi diweithdra hirdymor. Erbyn hyn, o ganlyniad uniongyrchol, mae llawer wedi dod o hyd i’r swydd barhaol roeddent yn chwilio amdani ac maent yn mynd o nerth i nerth.

Mae Twf Swyddi Cymru yn rhaglen sy’n weithredol ledled Cymru ac mae’n un o’n prif ymrwymiadau yn ein Rhaglen Lywodraethu.  Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF); mae £33 miliwn eisoes wedi cael ei gymeradwyo ac mae £12 miliwn wrthi’n cael ei ystyried; cyhoeddir canlyniad hynny yn y Gwanwyn.


Yn sgil llwyddiant y rhaglen hyd yn hyn, rydym eisoes wedi cyhoeddi £12.5 miliwn arall yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i’w hymestyn am bedwaredd blwyddyn – gan greu mwy na 4,000 o gyfleoedd gwaith ychwanegol i bobl ifanc ddi-waith. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc ledled Cymru ac yn rhoi’r profiad sydd ei angen arnynt i’w helpu yn eu gyrfaoedd. Mae Twf Swyddi Cymru yn cyflawni ei bwrpas ac rwy’n edrych ymlaen at weld mwy o lwyddiant yn 2014.

Caiff ystadegau Twf Swyddi Cymru eu cyhoeddi bob mis ac rwy’n amgáu dolen i’r ystadegau perfformiad diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys prif ffigurau’r rhaglen, manylion pob elfen a nifer y swyddi a grewyd ac a lenwyd yn ôl ardal Awdurdod Lleol, fel y gall Aelodau asesu’r perfformiad yn ardaloedd eu hetholaethau. Mae’r ystadegau i’w gweld ar lein.