Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr uwchgynhadledd ar gostau byw, a gadeiriais brynhawn ddoe. Ymunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol â mi, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru.

Trafodwyd y camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu aelwydydd Cymru i reoli'r argyfwng costau byw, gan gynnwys cyhoeddi pecyn cymorth arall yr wythnos hon gwerth mwy na £330 miliwn.

Bydd y pecyn hwn yn ein galluogi i wneud y canlynol:

  • Darparu Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf arall yn 2022–23, gan roi taliad arian parod o £200 na fydd angen ei ad-dalu i ragor o bobl ar incwm isel i helpu gyda’u biliau ynni
  • Buddsoddi yn y Gronfa Cymorth Dewisol, gan sicrhau rhagor o hyblygrwydd a bod rhagor o bobl yn cael cymorth ariannol brys pan fydd ei angen arnynt
  • Darparu taliad costau byw o £150 i bob aelwyd sy'n byw mewn eiddo ym mandiau'r dreth gyngor A i D ac i bob aelwyd sy'n derbyn cymorth gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym mhob band treth gyngor
  • Bydd £25 miliwn arall ar gael i awdurdodau lleol ar ffurf cronfa ddewisol. Byddant yn gallu targedu'r cyllid ychwanegol hwn i helpu aelwydydd sy’n ei chael yn anodd.

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at ein Cronfa Cymorth i Gartrefi bresennol gwerth £51 miliwn, a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd 2021, a dyblu'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.

Fodd bynnag, roedd yr uwchgynhadledd yn cydnabod yr angen i ddatblygu camau gweithredu sydd nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion uniongyrchol aelwydydd sy'n agored i niwed, ond hefyd yn eu cefnogi i wrthsefyll heriau yn y dyfodol.

Tynnodd yr uwchgynhadledd sylw at bwysigrwydd gweithio fel partneriaid ac atgyfnerthu ein cydymdrechion i gael effaith fwy parhaol.

Gan gydnabod mai Llywodraeth y DU yn bennaf sy’n meddu ar y pwerau a'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i helpu pobl gyda chost gynyddol ynni a chostau byw cynyddol, edrychwyd ar yr hyn y gallwn ni ei wneud fel cenedl i gefnogi ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn.

Diolchais i’n partneriaid am eu gwaith parhaus i fynd i'r afael â’r argyfwng costau byw, a galwais arnynt i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i ddatblygu dull strategol o fynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng hwn, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf. Bu dros 140 o bobl yn bresennol yn yr uwchgynhadledd rithwir, a chredaf fod hyn yn dangos lefel yr ymrwymiad i ddatblygu atebion yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Ymunodd amrediad eang o randdeiliaid allweddol â ni, gan siarad am yr heriau gwirioneddol mae pobl yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rhannodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen, Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru a Ben Saltmarsh, Pennaeth Gweithredu Ynni Cenedlaethol Cymru eu syniadau, ynghyd â'u hawgrymiadau ar gyfer atebion wrth symud ymlaen.

Yr hyn sy'n glir o'r uwchgynhadledd yw, er bod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith hwn, na all unrhyw un sefydliad fynd i'r afael â phroblem o'r maint hwn ar ei ben ei hun, a dull partneriaeth strategol yw'r unig ffordd ymlaen.

Rwyf wedi cytuno i gynnal digwyddiad dilynol cyn yr haf, pan rannaf y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo.