Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Dyma ein hunfed ar ddeg adroddiad blynyddol ar gydraddoldeb.  Rwy’n falch o allu dangos fod pob un ohonom yn llwyr ymroddedig fel llywodraeth i sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau yn ganolog i’r hyn rydym yn geisio ei gyflawni, er gwaethaf y ffaith ein bod i gyd yn gweithio mewn hinsawdd economaidd anodd. 

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at ddim ond rhai o’r trefniadau sydd gennym, a gwaith ein hadrannau i wneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl ledled Cymru. 

Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud eisoes, fodd bynnag, rwy’n credu y gallwn wneud mwy.  Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rhywfaint o’r gwaith paratoadol allweddol rydym wedi’i wneud ar gyfer un o’r newidiadau mwyaf yng nghyd-destun cydraddoldeb – Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Bydd y Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd newydd cyffredinol ym maes y sector cyhoeddus, a ddaw i rym ym mis Ebrill 2011.  Mae hefyd yn darparu ar gyfer galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod dyletswyddau penodol ym maes cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus a’r awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru. 

Rydym newydd gwblhau’r ymgynghoriad ar Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.  Bydd dyletswyddau cydraddoldeb Cymru yn golygu y bydd awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru yn perfformio’n well wrth fodloni gofynion dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus cyffredinol. 

Cafodd y dyletswyddau arfaethedig ar gyfer Cymru eu datblygu i fod yn gymesur o ran cynllun, yn berthnasol i’r angen, yn dryloyw o ran dull o weithio, ac wedi’u teilwra i lywio awdurdodau cyhoeddus perthnasol yng Nghymru i berfformio’u dyletswyddau cyffredinol yn well.  Y nod yw bodloni’n well anghenion dinasyddion Cymru sy’n dibynnu ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar eu cyfer gan y sector cyhoeddus. 

Dyna’r hyn y mae pob un ohonom yn ceisio’i gyflawni.  Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i fodloni’r anghenion hyn ac anghenion cymunedau amrywiol Cymru. 

Cafodd gopïau o’r Unfed Adroddiad Blynyddol ar Ddeg ar Gydraddoldeb eu hanfon at bob un o Aelodau’r Cynulliad.