Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn dilyn trosglwyddo cyfrifoldeb ar gyfer masnachfraint Cymru a'r Gororau i Lywodraeth Cymru, a'i ddyfarniad llwyddiannus i Trafnidiaeth Cymru, a'r ymrwymiadau i wella ac ehangu gwasanaethau ledled Cymru, mae angen i ni bellach ystyried ein gweledigaeth mwy hir dymor ar gyfer y system drafnidiaeth, y cysylltiadau sy'n hanfodol i'n ffyniant yn y dyfodol, a'r gwasanaethau sydd eu hangen i leihau effaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd.
Roedd manteision nodi amcanion a chanlyniadau polisi clir yn ymddangos drwy gydol y gwaith o gaffael y fasnachfraint lle roedd y cynigwyr yn rhydd i ddatblygu atebion arloesol i fodloni gofynion allweddol o ran gofynion y cerbydau, amlder gwasanaethau ac amserau teithio.
Fodd bynnag, ni all ein holl uchelgeisiau gael eu cyflawni drwy Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd. Fel y nodais yn fy nghyflwyniad i Adolygiad Rheilffyrdd Williams ym mis Rhagfyr, safbwynt y gwnaeth y Cynulliad ei gymeradwyo yn ddiweddarach, mae angen trefniant ariannol tecach arnom oddi wrth Lywodraeth y DU. Mae angen gwasanaethau trawsffiniol gwell arnom drwy fasnachfreintiau'r Adran Drafnidiaeth, ac rydym angen gwelliannau i'n seilwaith - seilwaith y credwn y dylem ei reoli yn yr hirdymor - ond yn y tymor byr mae'n rhaid i’r gwelliannau hyn gael eu gwneud drwy Network Rail.
Dyma pam fy mod yn nodi cyfres o egwyddorion ar gyfer cysylltiadau ledled Cymru i roi gwybod i'n partneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat am ein huchelgeisiau ac amcanion ac rwy'n disgwyl i'r egwyddorion hyn gael eu hystyried pan fo cynlluniau seilwaith yn cael eu cynllunio a'r gwasanaethau'n cael eu caffael.
Yn y tymor canolig bydd yr egwyddorion hyn yn rhan o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ac felly byddant yn destun ymgynghoriad ffurfiol fel y gall safbwyntiau rhanddeiliaid a defnyddwyr ledled Cymru a thu hwnt gael eu hystyried.
Mae'r egwyddorion a nodir yma yn canolbwyntio ar drafnidiaeth teithwyr torfol. Mae gwaith pellach yn cael ei wneud i sefydlu egwyddorion ar gyfer trafnidiaeth breifat, cludo nwyddau a dulliau eraill.
Mae'r egwyddorion a nodir isod yn gysylltiedig â chysylltiadau coridor sefydlog, fel arfer drwy'r rheilffyrdd ond efallai yn y dyfodol gan gerbydau tebyg i fysiau sy'n gweithio ar seilwaith pwrpasol/ar wahân, yn enwedig ar gyfer gwasanaethau Metro. Mae ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn cael ei datblygu o dan yr agenda diwygio bysiau ehangach a amlinellais ym mis Gorffennaf.
Materion Strategol
Mae oddeutu tri chwarter ein masnach gyda gweddill y DU. Mae'n glir, felly, fod cysylltiadau effeithlon, deniadol a chyflym rhwng ein dinasoedd, a chyda hybiau trafnidiaeth cenedlaethol a rhyngwladol ar draws y ffin yn allweddol ar gyfer ffyniant Cymru yn y dyfodol. Mae angen gwasanaethau aml ar ein prif gyfnewidfeydd sy'n caniatáu cyfnewidfeydd effeithlon a chyflym o'n gwasanaethau rhanbarthol, gan wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol a hyfyw ar gyfer mwy o'n teithiau.
- Atgyfnerthu Caerdydd Canolog, Casnewydd a Stryd Fawr Abertawe fel prif gyfnewidfeydd sy'n gwasanaethu yn y De.
- Nodi Cyffordd Llandudno a Wrecsam Cyffredinol fel prif gyfnewidfeydd yn y Gogledd.
- Isafswm o un gwasanaeth yr awr yn uniongyrchol i Heathrow o brif gyfnewidfeydd de Cymru.
- Isafswm o ddau wasanaeth yr awr i gyrraedd meysydd awyr Lerpwl a Manceinion o brif gyfnewidfeydd gogledd Cymru.
- Isafswm o ddau wasanaeth yr awr i Faes Awyr Birmingham o brif gyfnewidfeydd.
- Isafswm o ddau wasanaeth yr awr i hybiau HS2 o'r holl brif gyfnewidfeydd.
- Isafswm o chwe gwasanaeth yr awr rhwng pob un o brif gyfnewidfeydd de Cymru a Bryste, gydag o leiaf pedwar o'r rhain i Fryste Temple Meads.
- Isafswm o un gwasanaeth yr awr i borthladdoedd fferi Cymru o un brif gyfnewidfa.
- Isafswm o un gwasanaeth yr awr rhwng y prif gyfnewidfeydd yn y gogledd a’r prif gyfnewidfeydd yn ne Cymru.
- Cysylltiadau uniongyrchol rhwng Caerdydd Canolog a'r holl Ddinasoedd Craidd tebyg ar draws Prydain Fawr
- Yng ngogledd Cymru ni ddylai'r amseroedd teithio rhwng prif gyfnewidfeydd fod yn fwy na 60 munud.
- Ni ddylai amseroedd teithio rhwng Stryd Fawr Abertawe a Chaerdydd Canolog fod yn fwy na 30 munud.
- Ni ddylai amseroedd teithio rhwng Caerdydd Canolog a Bryste Temple Meads fod yn fwy na 35 munud.
- Ni ddylai amseroedd teithio rhwng Llundain Paddington a Chaerdydd Canolog fod yn fwy na 85 munud.
Materion Rhanbarthol
Mae natur ymylol gyffredinol a phoblogaethau gwasgaredig rhanbarthau Cymru yn golygu bod gwasanaethau rheolaidd rhwng ein prif gyfnewidfeydd a hybiau trafnidiaeth rhanbarthol integredig, modern sydd wedi'u cysylltu'n dda yn allweddol i wella cysylltiadau rhwng ein dinasoedd a threfi, ac o'n rhanbarthau ar draws y ffin.
Mae'r rôl y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae, felly, yr un mor bwysig i ni o ran cefnogi ein cymunedau gwledig, darparu cysylltiadau hanfodol â swyddi a gwasanaethau, gan wella mynediad at ein cyrchfannau twristiaeth o'r radd flaenaf.
Felly, mae’n allweddol gwella mynediad mewn ffordd sy'n gyson â'n targedau datgarboneiddio a’r argyfwng hinsawdd ar draws ein rhanbarthau a gyhoeddwyd yn ddiweddar drwy ein seilwaith economaidd ein hunain sy’n cynnwys ein porthladdoedd, meysydd awyr ac ardaloedd menter. Bydd hynny’n rhoi hwb i economi sy'n gryfach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy teg.
- Yn y De-ddwyrain, sefydlu Pontypridd, Caerffili, Pen-y-bont ar Ogwr, Bae Caerdydd, Heol y Frenhines Caerdydd a Pharcffordd Caerdydd yn gyfnewidfeydd rhanbarthol.
- Sefydlu Bangor fel cyfnewidfa ranbarthol sy'n gwasanaethu’r Gogledd.
- Sefydlu Castell-nedd, Caerfyrddin a'r Amwythig yn gyfnewidfeydd rhanbarthol sy'n gwasanaethu’r De-orllewin a’r Canolbarth.
- Isafswm o 4 gwasanaeth yr awr rhwng y prif gyfnewidfeydd a'r cyfnewidfeydd rhanbarthol cyfagos.
- Y prif gyfnewidfeydd a'r cyfnewidfeydd rhanbarthol i gael gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau trên a darpariaeth teithio llesol cynhwysfawr sy'n cysylltu'r gyfnewidfa ag ardaloedd allweddol.
- Isafswm o bedwar gwasanaeth yr awr i Faes Awyr Caerdydd o brif gyfnewidfeydd y De.
- Isafswm o un gwasanaeth yr awr i ardaloedd menter o brif gyfnewidfa.
- Isafswm o un gwasanaeth bob dwy awr i bob cyfeiriad ymhob gorsaf yng Nghymru.
Mae'r trafodaethau uchod ynghylch patrymau gwasanaeth yn rhagweld y gwasanaethau hyn yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, gydag ychydig o leihad o ran y patrwm gwasanaeth ar ddydd Sul.
Materion Trefol/Lleol
Mae'r diffyg cytrefi digon mawr wedi'i nodi fel un o'r rhesymau dros ein cynhyrchiant gwael o'i gymharu â gweddill y DU, gan gyfyngu hyd yn hyn ar y manteision cydgrynhoad a ddaw gyda marchnadoedd llafur mwy, cadwyni cyflenwi mwy effeithlon a mwy o gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae mwy i’n rhanbarthau na'r dinasoedd yn unig. Mae llif pobl y ddwy ffordd, masnach, gwaith teg a rhyngweithio cymdeithasol yn hanfodol er mwyn i bob rhan o Gymru ddatblygu'n economaidd fel rhan o gymdeithas lewyrchus. Felly mae'r cysylltiadau o fewn ein Dinas-ranbarthau a datblygiad Metro De Cymru, a'r cynlluniau ar gyfer Metro Gogledd-ddwyrain Cymru a Metro Bae Abertawe yn allweddol ar gyfer cynyddu ein gwerth ychwanegol gros a'n ffyniant.
Cerbydau allyriadau sero fydd yn darparu'r gwasanaethau hyn. Bydd gorsafoedd yn hollol hygyrch gyda mynediad heb risiau, a heb risiau i gerbydau. Bydd strategaethau prisio yn cael eu datblygu sy’n annog cymunedau o dan anfantais i’w defnyddio, gan wneud y defnydd mwyaf o'r rhwydwaith, a rhoi cap ar gostau dyddiol ac wythnosol ar gyfer teithiau aml-ddull. Yn debyg i wasanaethau strategol a rhanbarthol, ni fydd yn rhaid i unrhyw un sefyll am fwy nag 20 munud yn sgil prinder seddi.
Bydd cyfleusterau parcio a theithio/parcio a rhannu gyda digon o le yn cael eu darparu mewn mannau allweddol ar y rhwydwaith, ac yn benodol lle y mae’r rhwydwaith yn croesi ffyrdd strategol neu brifwythiennol, i sicrhau’r mynediad gorau posibl i gyfnewidfeydd rhanbarthol a phrif gyfnewidfeydd, gan integreiddio taliadau ar gyfer yr holl gyfleusterau mewn unrhyw orsaf Metro neu gyfnewidfa.
- Bydd pob gorsaf Metro yn elwa ar bedwar gwasanaeth yr awr o leiaf i bob cyfeiriad o ddydd Llun i ddydd Gwener.
- Bydd pob gorsaf Metro yn elwa ar ddau wasanaeth yr awr o leiaf i bob cyfeiriad saith diwrnod yr wythnos.
- Yn y De-ddwyrain, ni ddylai amseroedd teithio i brif gyfnewidfa fod yn fwy na 60 munud.
- Yn y De-orllewin, ni ddylai amseroedd teithio i brif gyfnewidfa fod yn fwy na 60 munud.
- Yn y Gogledd, ni ddylai'r amser teithio i brif gyfnewidfa fod yn fwy na 60 munud.
- Dylai gwasanaethau Metro weithredu rhwng 06:00 a hanner nos.
Nid addewidion yw'r rhain. Nid ymrwymiadau yw'r rhain. Nid oes unrhyw arian wedi'i neilltuo. Ond maent yn rhoi cyfeiriad i’n gwaith ac yn rhoi gwybod i eraill am ein huchelgeisiau. Ac yn bwysicaf oll, maent yn arwydd bod Cymru ar agor i ymwelwyr a busnesau.
Mae hwn yn gynllun 20 mlynedd. Ein bwriad yw trawsnewid gwasanaethau, hygyrchedd a'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar draws pob un o'n rhanbarthau fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth integredig a sicrhau ei fod yn cyflawni ei botensial fel un o'n hasedau gwerthfawr yn gymdeithasol ac yn economaidd.