Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 25 Chwefror 2013, cyhoeddais y byddwn yn datblygu set ddiwygiedig o safonau mewn perthynas â’r Gymraeg ar gyfer ymgynghoriad. Dywedais fy mod yn amcangyfrif y byddai’r rheoliadau ar gyfer gwneud y set gyntaf o safonau, ynghyd â’r rheoliadau’n gwneud y safonau’n benodol gymwys i bersonau, yn cael eu gwneud erbyn diwedd 2014.
Yn ystod y ddadl ar safonau mewn perthynas â’r Gymraeg a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Mawrth 2013, cytunais i gyhoeddi amserlen yn amlinellu’r camau i’w cymryd er mwyn gwneud y rheoliadau. Mae’r amserlen ddangosol ar gyfer datblygu rheoliadau ar gyfer y set gyntaf o safonau wedi’i nodi isod.
Bydd y ddogfen ymgynghori ar gyfer y set gyntaf o safonau yn canolbwyntio ar alluogi Comisiynydd y Gymraeg i osod dyletswyddau ar awdurdodau lleol, awdurdodau’r parciau cenedlaethol, a Gweinidogion Cymru.
- Datblygu’r ddogfen ymgynghori - Ar waith
- Y cyfnod ymgynghori - Canol Gorffennaf – canol Tachwedd 2013
- Ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad a pharatoi rheoliadau drafft, memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol - Rhagfyr 2013 – Mawrth 2014
- Cyfnod aros o 3 mis (Cyfarwyddeb Safonau Technegol y CE) - Diwedd Mawrth – diwedd Mehefin 2014
- Taith y rheoliadau trwy’r Cynulliad Cenedlaethol - Medi / Hydref 2014
- Rheoliadau yn dod i rym - Tachwedd 2014
Byddaf yn gwneud datganiad pellach i’r Aelodau ar ddechrau’r cyfnod ymgynghori.