Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Heddiw, rwy’n lansio ail Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio’r cynnydd yr ydym wedi’i wneud tuag at gyrraedd y targedau a nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu a Strategaeth Llywodraeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd. Mae hefyd yn rhoi crynodeb o’r camau yr ydym wedi’u cymryd i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac â chanlyniadau’r newid hinsawdd. Mae’r adroddiad yn dangos ein bod wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Rydym wedi trechu ein targed o ostwng allyriadau 3% y flwyddyn yn y meysydd datganoledig, gan lwyddo i sicrhau gostyngiad o 10.1%; o ran ein targed ehangach i leihau ein holl allyriadau 40% erbyn 2020, mae’r adroddiad yn nodi 20.6% o ostyngiad yn yr allyriadau o gymharu â gwaelodlin 1990.
Mae’r adroddiad yn dadansoddi’r allyriadau ac yn nodi’r camau rydym wedi’u cymryd fesul sector i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae bron pob un o’r sectorau allweddol wedi lleihau ei allyriadau’n sylweddol, yn enwedig, mae’r sector cyhoeddus wedi bod ar flaen y gad gan sicrhau’r gostyngiad mwyaf.
Mae’r adroddiad hwn yn amserol, gan ei fod yn cael ei gyhoeddi yn sgil yr adroddiad gan y Panel Rhyngwladol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPCC), y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais innau fis Hydref ac Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Warsaw fis diwethaf. Drwy grynhoi ein prif gamau gweithredu i liniaru ac addasu i effeithiau gwirioneddol y newid yn yr hinsawdd ac amddiffyn ein sectorau rhagddo, mae’r adroddiad yn dangos sut rydym yn ymateb i’r cyd-destun ehangach hwn drwy ddelio â’r risgiau a amlygir gan y gwyddonwyr a gweithio i wireddu’r cyfleoedd a ddaw wrth i’r byd cyfan drosglwyddo i ddulliau carbon isel.
Ar ôl y trafodaethau estynedig yn Uwchgynhadledd Warsaw, cymerwyd rhai camau cadarnhaol tuag at gael cytundeb newydd ym Mharis yn 2015, a bellach mae pob economi fawr wedi cael y dasg o nodi eu cyfraniadau arfaethedig erbyn chwarter 1af 2015. Mae hyn yn dangos sut bydd y newid yn yr hinsawdd yn parhau i ddylanwadu ar y cyd-destun byd-eang; roedd yn amlwg yn Warsaw bod y pwerau economaidd mwyaf fel Tsieina yn rhoi blaenoriaeth yn awr i ddiwydiannau carbon isel. Yn ychwanegol, mae’r ymrwymiadau o Warsaw ynghylch sefydlu Cronfa Hinsawdd Werdd flynyddol gwerth $100 biliwn i helpu’r gwledydd sy’n datblygu ymdopi â’r newid yn yr hinsawdd yn dangos maint y buddsoddiad byd-eang. Mae hyn oll yn tanlinellu pwysigrwydd hanfodol ein dull ni o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd o ran sicrhau bod Cymru yn y sefyllfa orau i gymryd mantais ar gyfleoedd economaidd newydd.
Yn uwchgynhadledd Warsaw y cynhaliwyd diwrnod ffurfiol cyntaf erioed y Cenhedloedd Unedig i ganolbwyntio ar ‘Ddinasoedd a Dialog Is-genedlaethol’, ac mae’n bwysig nodi’r gydnabyddiaeth ffurfiol gan y Cenhedloedd Unedig i gyfraniad allweddol llywodraethau rhanbarthol, fel y ni, tuag at daclo’r newid yn yr hinsawdd. Cefais i fraint o annerch digwyddiad yn yr uwchgynhadledd a drefnwyd gan y Grŵp Hinsawdd a Rhwydwaith y Llywodraethau Rhanbarthol dros Ddatblygu Cynaliadwy (nrg4SD). Cefais fy nharo gan y gwrthdaro rhwng arafwch y trafodaethau gwladwriaethol a nifer y llywodraethau rhanbarthol a oedd yn dangos uchelgais gwirioneddol ac yn gweithredu’n ymarferol i daclo’r newid yn yr hinsawdd.
Mae’r Adroddiad Blynyddol a chanlyniadau Warsaw yn cynrychioli cynnydd positif. Ond, os ydym i gyrraedd ein targedau hirdymor, mae angen inni wneud mwy. Fy mwriad felly yw adnewyddu ein polisi newid hinsawdd yn 2014. Byddwn yn canolbwyntio ar y camau gweithredu ymarferol y mae angen inni eu cymryd i gyrraedd ein targedau allyriadau er mwyn gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well a dod yn fwy ffyniannus. Mae ein blaenoriaethau ni’n mynd law yn llaw â’n hamcanion o ran y newid yn yr hinsawdd, sef ymdrechu i sicrhau Cymru garbon isel sy’n defnyddio’i hadnoddau’n effeithlon ac yn gymdeithasol gynhwysol.