Neidio i'r prif gynnwy

Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Ar 23 Tachwedd, cyhoeddais y bwriad i sefydlu adolygiad annibynnol Elfen Cymru Gyfan cynllun Glastir. Byddai'r adolygiad yn canolbwyntio ar yr agweddau ymarferol ar gyflawni amodau presennol yr Elfen Cymru Gyfan ar y fferm. Byddai hefyd yn rhoi sylw i'r ceisiadau a ddaeth i law ym mis Tachwedd i ymuno â Glastir yn 2012. 

Mae meysydd gweithgarwch allweddol y grŵp adolygu wedi'u nodi yn y cylch gorchwyl ffurfiol, sydd wedi'i atodi i'r datganiad hwn. Mae hefyd yn cynnwys rhestr o aelodau'r grŵp, a fydd yn cael ei gadeirio gan Rees Roberts, cyn Gadeirydd Hybu Cig Cymru.  
 
Rwy'n disgwyl i waith y grŵp adolygu ddod i ben cyn mis Mawrth 2011, ac i'r adroddiad gael ei gyflwyno'n uniongyrchol i mi. Bydd unrhyw benderfyniadau a wnaf mewn ymateb i'r adroddiad, ac sy'n arwain at newid amodau presennol Elfen Cymru Gyfan, yn berthnasol i gylch ceisiadau 2011 Glastir (ar gyfer ymuno yn 2013). Bydd yr ymgeiswyr presennol sy'n cychwyn ar gontract Glastir yn 2012 yn cael y dewis i addasu eu contractau yng ngoleuni unrhyw newid i'r amodau presennol.

Hefyd yn atodedig mae dadansoddiad cryno o'r ceisiadau a ddaeth i law ym mis Tachwedd i ymuno ag Elfen Cymru Gyfan Glastir yn 2012.