Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Tachwedd 2021, comisiynais i adolygiad annibynnol o'r rhaglenni gwaith blynyddol a'u haddasrwydd ar gyfer rheoli'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru. Gwnaed hyn yng ngoleuni'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd, yr Adolygiad o'r Ffyrdd a oedd ar y gweill a'r angen i feddwl mewn ffordd wahanol am y ffordd rydyn ni'n rheoli ac yn cynnal a chadw'r rhwydwaith, er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau statudol a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd.
Mae Llwybr Newydd yn nodi y "Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein seilwaith trafnidiaeth yn ddiogel, yn hygyrch, yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac yn barod ar gyfer y dyfodol, er mwyn addasu i'r newid yn yr hinsawdd."
Roedd Adroddiad Lugg yn edrych yn fanwl ar ymrwymiadau statudol, addasrwydd a fforddiadwyedd y gofynion ar gyfer cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith, a'r model gweithredu presennol ar gyfer gwneud y gwaith hwn.
Mae fy swyddogion yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad a'r ffordd y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod y seilwaith presennol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau posibl, drwy fabwysiadu prosesau mwy cadarn ar gyfer rheoli asedau. Bydd yr ymateb i'r argymhellion yn llywio'r polisïau a'r strategaethau ar gyfer rheoli asedau'r rhwydwaith ffyrdd strategol, a bydd yn ganolog i raglen newydd o waith adnewyddu ar gyfer asedau mawr, wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith hanfodol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol.
Byddaf yn cyhoeddi argymhellion yr adolygiad a'r ymateb i'r argymhellion hynny pan fydd yr ymarfer hwn wedi cael ei gwblhau.
Hoffwn i ddiolch i Matthew Lugg OBE ac aelodau'r panel am eu harbenigedd, eu dealltwriaeth a'u barn werthfawr ynghylch y ffordd y dylen ni gynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd strategol, i sicrhau bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, yn ei rôl fel yr awdurdod priffyrdd, yn cael eu cyflawni'n llawn, ond mewn ffordd sy'n trin yr hinsawdd mewn modd cyfrifol ac yn cefnogi newid dulliau teithio.